Cost of Living Support Icon

Cymorth i fusnesau i gydymffurfio â rheoliadau diogelwch bwyd

 

20 Chwefror 2017

 

MAE’R Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir , y corff sy’n gyfrifol am orfodi pethau fel rheoliadau diogelwch bwyd ledled y Fro, wedi bod yn rhoi cyngor i fusnesau ar sut i gwrdd â safonau mewn digwyddiad gorlawn yn y Stadiwm Principality.


Rhoddodd y fforwm brecwast gipolwg i fusnesau bwyd o Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg ar y cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael mewn meysydd fel hylendid bwyd, iechyd a diogelwch, alergenau a labelu bwyd.


SRS Food Safety 1Gyda dros 100 o fusnesau yno, o siopau coffi i dai bwyta, gwestyau, meithrinfeydd ac arlwywyr, derbyniodd y mynychwyr awgrymiadau ar sut i sgorio’n uchel ar y gyfradd hylendid bwyd, pwysigrwydd deall alergenau a sut i gadw staff a’r cyhoedd yn ddiogel mewn sefydliad bwyd. 


Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn cynnig cyngor wedi ei deilwra i fusnesau y gellir ei ddarparu ar sail ymgynghorol neu trwy gyfrwng partneriaeth Prif Awdurdod.


Mae gwasanaethau yn cynnwys hyfforddiant staff, archwilio telerau, amodau, polisïau a gweithdrefnau ac archwiliadau ffug i baratoi busnesau yn well ar gyfer yr archwiliad iawn.


Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, cadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: “Mae busnesau lleol llewyrchus wrth galon cymunedau llwyddiannus, a dyna pam fod gan ein Swyddogion ni ffocws clir  ar helpu i sicrhau cydymffurfiaeth ac ysgafnhau rhywfaint o’r baich rheoliadol.


“Mae swyddogion yn gweithredu fel pwyntiau cyswllt penodol ar gyfer partneriaid Prif Awdurdod, sy’n golygu y gallwn ddelio ag ymholiadau gan reoleiddwyr eraill a chynnig cyngor rhagweithiol, er budd y busnes. Rydym hefyd yn gwirio a dilysu dogfennau megis systemau rheoli diogelwch bwyd, sy’n golygu llai o waith yn gwirio gwaith papur yn ystod archwiliad hylendid bwyd.”


Sefydlodd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir eu partneriaeth Prif Awdurdod gyntaf yn 2015, ac maent nawr yn gweithio gydag 11 o fusnesau ar draws y rhanbarth a thu hwnt. Derbyniodd y gwasanaeth wobr ‘cymeradwyaeth uchel’ yn y Gwobrau Prif Awdurdod yn Llundain fis Mai 2016 am ei agwedd flaengar at ymgysylltu â busnes.


Sefydlwyd y cynllun Prif Awdurdod yn 2009, yn wreiddiol i gynnig gwasanaethau i gwmnïau mawr yn unig. Ar hyn o bryd, mae’r cynllun ond ar gael ar gyfer busnesau sy’n masnachu dros fwy nag un ardal llywodraeth leol, neu’n masnachu ar-lein, ond bydd newidiadau i’r cynllun o fis Hydref 2017 yn golygu y gall mwy o fusnesau wneud cais am bartneriaeth.


I drafod Prif Awdurdod a’r gwasanaethau pwrpasol all fod ar gael i’ch busnes, cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir drwy ffonio 0300 1236696 neu e-bostio: businessadvice-srswales@valeofglamorgan.gov.uk