Cost of Living Support Icon

Disgyblion Ysgol Gynradd tregatwg yn addurno bocsys adar yn y Parc Baner Werdd, Parc Fictoria

 

22 Chwefror 2017

 

MAE disgyblion o Ysgol Gynradd Tregatwg wedi bod yn paentio bocsys adar a'u rhoi mewn coed o amgylch Parc Fictoria - un o lawer o leoedd awyr agored ym Mro Morgannwg sydd wedi ennill y wobr Baner Werdd.


Mae cyfanswm o wyth o barciau yn y Sir sydd wedi cael y wobr honno gan Cadwch Gymru'n Daclus, sy’n nodi man gwyrdd o safon. Ymhlith y lleill mae Mynwent Merthyr Dyfan, Parc Romilly, Parc Alexandra, Glannau Ynys y Barri, Parc Belle Vue, Central Park a Gerddi’r Cnap.


victoriapark1Mae hefyd wyth o safleoedd cymunedol yn y Fro sydd wedi ennill y wobr Baner Werdd. Ymhlith y rhain mae Gardd Gymunedol y Barri, Coetir Llwynbedw, Gardd Meddygon Y Bont-faen, Gwarchodfa Natur Leol Cwmtalwg, y Berllan Elisabethaidd, Gerddi’r Hen Neuadd, Cae'r Berllan Gwenfô a Pherllan Gymunedol Gwenfô.


Gan fod Ysgol Gynradd Tregatwg drws nesaf i Barc Fictoria, mae'r disgyblion yn elwa o ddefnyddio'r ardal ar gyfer llawer o weithgareddau. Cynhelir dydd chwaraeon yr ysgol yno, ac mae’r plant yn adeiladu llochesi o amgylch y parc ac yn mynd ar deithiau natur.


Mae eu project diweddaraf wedi arwain at ddisgyblion ym mlwyddyn Dau a Thri yn paentio nifer o focsys i'r adar nythu ynddyn nhw. Caiff y rhain eu rhoi ar goed o amgylch y parc, gan alluogi’r plant i fonitro faint y cânt eu defnyddio dros y misoedd nesaf.


Mae Ysgol Gynradd Tregatwg yn Eco-ysgol, sy'n golygu ei bod hi'n dilyn rhaglen ryngwladol a gynhelir yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus a ariennir gan Lywodraeth Cymru. 


Mae’r rhaglen yn helpu disgyblion i ddysgu am fyw’n gynaliadwy a dinasyddiaeth ryngwladol wrth roi'r wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i wneud newidiadau a fydd yn dod â buddion i'w hysgol, yr amgylchedd lleol a'r gymuned ehangach. Mae’r rhain yn cynnwys lleihau defnydd ynni a gwastraff, defnyddio trafnidiaeth ecogyfeillgar, byw’n iach a bod yn ymwybodol am faterion sbwriel.


Dywedodd y Cyng. Gwyn John, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gweladwy, Hamdden a Rheoleiddiol: “Yma ym Mro Morgannwg, rydym wedi gweithio'n galed i greu mannau gwyrdd o safon i bobl allu eu mwynhau a bod yn falch ohonynt, ac mae'r ymdrech hyn wedi arwain at fannau gwyrdd yn y sir yn cael statws Baner Werdd.


“Mae’n bleser i weld plant Ysgol Gynradd Tregatwg yn mwynhau Victoria Park. Mae cael lle mor ardderchog ar eu carreg drws yn rhoi cyfle gwych iddyn nhw ddysgu am fywyd gwyllt lleol. Dylai’r project nyt

victoriapark3

hu hon fwydo'r diddordeb hwnnw, a gall amser yn y parc hefyd wneud plant yn ymwybodol am faterion amgylcheddol pwysig."

 

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus: “Mae Victoria Park yn enghraifft dda iawn o safle sydd wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen er mwyn cyflawni’r Wobr Baner Werdd. Mae’n boblogaidd iawn yn y gymuned ac roedd gweld disgyblion Ysgol Gynradd Tregatwg yn dysgu am bwysig

rwydd y Faner Werdd a'r bywyd gwyllt yn y parc yn braf iawn. Drwy helpu i baentio a gosod bocsys 

nythu newydd cafodd y disgyblion gyfle i fwynhau a rhannu'r awyr agored gyda phreswylwyr gwyllt y parc."