Cost of Living Support Icon

Grŵp cymunedol yn cymryd awenau Llyfrgell y Rhws

 

06 Chwefror 2017

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi trosglwyddo llyfrgell Y Rhws a’r gwaith o gynnig gwasanaethau’r llyfrgell ar gyfer y Rhws a’r pentrefi cyfagos i grŵp cymunedol dan arweiniad y Cyng. Jeff James.

 

 Rhoose Community Library Group

 

Bydd grŵp Llyfrgell Gymunedol y Rhws yn cynnig gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth i aelodau’r llyfrgell a bydd yn ceisio datblygu cyfleoedd cymdeithasol ac addysgol newydd ar gyfer y gymuned.


Roedd tri o ymddiriedolwyr y grŵp, Chris Economides, Hugh Jupp a’r Cyng. James, yno yn ystod trosglwyddo’r cyfleuster yn swyddogol yng nghanolfan gymunedol Y Rhws ar 31 Ionawr.


Dywedodd y Cyng. Jeff James, Cadeirydd Llyfrgell Gymunedol y Rhws: “Mae Llyfrgell Gymunedol y Rhws yn elusen gofrestredig sy’n gwbl ddibynnol ar dîm o wirfoddolwyr hyfforddedig ac ymroddgar.  


“Yn ogystal â chadw’r llyfrgell ar agor, rydym yn bwriadu hyrwyddo defnydd cymunedol ehangach gyda gweithgareddau megis dosbarthiadau addysg i oedolion, clybiau llyfrau ac adrodd straeon.”


Dywedodd y Cyng. Lis Burnett: “Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes Llyfrgell y Rhws. Dylid canmol aelodau’r gymuned a gamodd ymlaen i gymryd y cyfrifoldeb dros gynnal y gwasanaeth.


“Mae llyfrgelloedd eraill y Fro sydd wedi eu trosglwyddo i grwpiau cymunedol wedi ffynnu ac rydym yn gobeithio y cawn yr un llwyddiant yn llyfrgell y Rhws gyda chefnogaeth barhaus Cyngor Bro Morgannwg.”


Dylai unrhyw un sydd am wirfoddoli i helpu i gynnal y llyfrgell gysylltu â’r llyfrgell yn ystod oriau gwaith. Dyma fydd oriau agor y llyfrgell:

 

Library opening times
 Dydd  Bore Prynhawn
 Llun 10:00am - 1:00pm 2:00pm – 5:00pm
 Mawrth 10:00am – 12:00pm Closed
Mercher 10:00am - 1:00pm 2:00pm – 5:00pm
Iau 10:00am – 12:00pm Closed
Gwener 10:00am - 1:00pm 2:00pm – 4:00pm
Sadwrn 10:00am – 12:00pm Closed
Sul Closed Closed