Cost of Living Support Icon

Gwait adeiladu tai cyngor newydd yn y Barri bellach ar y gweill

20 Chwefror 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau gwaith ar ei ddatblygiad tai Cyngor newydd cyntaf ers 17 mlynedd yn Francis Road, y Barri.

 

Francis Road breaking ground

Mae gwaith i adeiladu tri byngalo, y caiff dau ohonynt eu haddasu ar gyfer teuluoedd lleol gydag oedolion neu blant ag anableddau, bellach ar y gweill.

 

I nodi’r digwyddiad cynhaliwyd seremoni swyddogol, gyda’r Cyng. Neil Moore, Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Bronwen Brooks, Aelod Cabinet dros Dai, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, a’r aelodau ward lleol y Cyng. Margret Wilkinson a’r Cyng. Julie Aviet.

 

Meddai’r Cyng. Brooks: “Mae wedi bod yn uchelgais ers amser gan y weinyddiaeth hon i adeiladu tai cyngor newydd. Roeddwn wrth fy modd o allu cyhoeddi ein bod ni’n mynd i gyflawni’r uchelgais hwn ac rwy’n falch iawn o fod yma wrth i’r gwaith adeiladu ddechrau.

 

“Fe wyddom ni fod angen mwy o dai fforddiadwy ar Fro Morgannwg a mwy o dai i’r rheiny sy’n byw gydag anabledd. Dyma'n union fydd y cynllun hwn, ac eraill rydym wedi eu cynllunio, yn ei gyflawni.  

 

“Bydd y datblygiadau newydd hyn yn darparu cartrefi i’r rheiny sydd mewn gwir angen, a’r rheiny sydd mewn sawl achos wedi bod yn disgwyl am amser maith. Mae’r cynllun hwn yn nodi newid sylweddol yn y ffordd y mae’r Cyngor hwn yn gweithio i daclo materion tai ac rwy’n edrych ymlaen at gyflawni llawer mwy.”


Francis Road breaking ground 2

Mae’r tai newydd yn Francis Road yn cael eu hadeiladu at safon uchel, yn unol â gofynion ansawdd dylunio Llywodraeth Cymru ac ystyrir effeithlonrwydd ynni ym mhob un o'r tai. Trwy wneud hyn bydd y cartrefi yn fwy fforddiadwy i denantiaid newydd eu rhedeg ac yn helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ym Mro Morgannwg.

 

Bydd cam nesaf cynllun datblygu tai Cyngor Bro Morgannwg yn dechrau’n fuan ar ôl dymchwel Brecon Court. Bydd hyn yn galluogi gwaith i ailddatblygu’r safle.

 

Caiff manylion am sesiynau ymgynghori cyhoeddus, lle gall trigolion lleol edrych ar gynlluniau ar gyfer y safle, eu rhyddhau’n fuan.