Cost of Living Support Icon

Cynnig cynyddu treth gyngor y Fro gan 2.8%

21 Chwefror 2017

Mae cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cynnig cynyddu’r dreth gyngor i’r sir gan 2.8%.

Recycling-vehicle

Dywedodd y Cyng. Neil Moore, Arweinydd y Cyngor: “Mae cydbwyso’r gyllideb yn wyneb toriadau parhaus i gyllid y cyngor yn dasg sy’n gorfodi penderfyniadau anodd iawn arnom.

 

“Dros y blynyddoedd diwethaf fe’n gorfodwyd i daro cydbwysedd rhwng lleihau’r effaith ariannol ar drigolion gan sicrhau y gallwn ariannu gwasanaethau hanfodol fel gofal cymdeithasol i oedolion ar adeg o alw cynyddol.

 

“Mae’r cynnydd yn y dreth gyngor yn cyfateb i doriad o £1.7m o gyllid o du Llywodraeth Cymru. Ar gyfer eiddo band D yn y Fro, bydd cynnydd o lai na 60c yr wythnos.

 

“Er gwaetha’r cynnydd yn y dreth gyngor bydd Cyngor Bro Morgannwg yn dal i wneud arbedion o dros £4m dros y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn canslo effaith pwysau cost fel y cyflog byw cenedlaethol newydd a fydd yn cynyddu cost darparu ein gwasanaethau gan dros £5m.”

 

Bydd y dreth gyngor i eiddo band D ym Mro Morgannwg yn ia na chyfartaledd cenedlaethol Cymru ond bydd yn codi o £1111.23 i £1142.37.