Cost of Living Support Icon

Cynghorau’n gweithio gyda chartrefi gofal i godi safonau diogelwch

 

15 Chwefror 2017

 

Mae Is-adran Gwasanaethau Masnachol y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi cynnal digwyddiad yr wythnos hon ar gyfer rheolwyr a staff gofal sy’n gweithio mewn cartrefi gofal preswyl ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg i helpu i godi safonau iechyd a diogelwch.

 

Care homes invited to forumCynhaliwyd y fforwm yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 09 Chwefror ar ôl i archwiliadau o bob cartref gofal a reolir yn breifat yn yr ardal godi pryderon yn 2016. 

 

Yn ystod yr archwiliadau hyn, canfuwyd gwendidau o ran rheoli clefyd y lleng filwyr a chodi offer yn ddiogel.  Canfuwyd gwendidau hefyd o ran gwybodaeth y gweithwyr gofal am iechyd a diogelwch ynghylch syrthio o uchder, a llosgi.

 

Datblygwyd rhaglen hyfforddiant unigryw o’r sector gofal o’r herwydd, a bu i dros 70 o bobl fynychu'r cyntaf o'r sesiynau arbennig hyn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, cadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: “Mae pobl sy’n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn gofalu am boblogaeth sy’n agored i niwed. Mae ganddynt yr hawl i weithio mewn gweithlu diogel a iachus, ac mae gan y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn yr hawl i gael gofal a chymorth sy’n ddiogel ac sy'n ystyried eu hanghenion a'u hurddas. 


“Weithiau gall rheoli’r anghenion gwahanol hyn adnabod sefyllfaoedd cymhleth a fydd, os nad ydynt yn cael eu rheoli’n effeithiol, yn gallu arwain at niwed difrifol i staff a phreswylwyr. 


stands at care forum“Trwy weithio’n agos gyda chartrefi gofal preswyl ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, ac yn enwedig drwy gynnig sesiynau hyfforddiant rhyngweithiol fel y rhain, gallwn sicrhau amgylcheddau gwaith diogel ac iach ar lefel gynaliadwy."


Nododd y Cynghorydd John: “Roedd yr hyfforddiant diweddar yn canolbwyntio ar gefnogi a galluogi staff i reoli risgiau iechyd a diogelwch a rheoli heintiau'n fwy effeithiol drwy gyfres o gyflwyniadau, gweithdai bychan ac ystod o stondinau ble roedd gan bobl gyfle i drafod materion yn uniongyrchol gyda swyddogion mewn lleoliad anffurfiol. Cafodd bawb a fynychodd fudd mawr o’r digwyddiad ac roedd yn deyrnged i holl waith caled staff y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.”


Dylai unrhyw un sy’n gweithio yn y sector ac sydd angen rhagor o gyngor a gwybodaeth ar faterion iechyd a diogelwch ymweld â www.srs.wales neu ffoniwch 0300 123 6696.