Cost of Living Support Icon

Llyfrgell y Bont-Faen yn llaw hud a lledrith Hogwarts

 

08 Chwefror 2017

 

Bu i Lyfrgell y Bont-faen gynnal y drydedd Noson Lyfrau Harry Potter flynyddol yn ddiweddar, a chafwyd noson fythgofiadwy o hud a lledrith i fenthycwyr llyfrau ifainc ar hyd y Fro.

 

Witch and wizard cast spell at Cowbridge LibraryCafodd dros 30 o ddewiniaid, gwrachod a muggles noswaith o ddarlleniadau, gwneud dognau hud a bwystfilod rhyfeddol pan agorodd y llyfrgell ei drysau i groesawu meddylwyr chwilfrydig.


Dechreuodd y noson trwy drefnu’r myfyrwyr i dai yn y seremoni drefnu cyn iddynt fynd i ymweld â'r tŷ tylluanod lle cawsant gyfarfod nid Hedwig ond Bert, y dylluan wen, ac Ice tylluan yr eira. Aeth myfyrwyr Gryffindor, Slytherin, Ravenclaw a Hufflepuff yna i ddysgu rhagor am y bwystfilod rhyfeddol hyn gan eu perchnogion, Wings of Wales.


Diolch byth, roedd y meistri dognau’n llawer mwy croesawgar na’r athro Snape a gwnaeth y plant fwynhau gwneud eu dognau cyn creu Bowtruckles. Bu’r myfyrwyr ifainc wrthi'n dylunio bwystfilod creadigol eu hunain cyn dod â'r noson i derfyn dros wydraid o gwrw menyn (Butterbeer).


Making potions at Cowridge LibraryDywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg y canlynol: “Mae digwyddiadau ardderchog fel hyn yn hynod bwysig oherwydd eu bod yn rhan bwysig o ddenu plant ifainc a'u hannog i ddarllen mwy.


“Mae staff Llyfrgell y Bont-Faen wedi gwneud gwaith gwych yn diddanu eu hymwelwyr ifainc trwy lenyddiaeth unwaith yn rhagor.”


Roedd Llyfrgell y Bont-faen wrth ei bodd yn cynnal y noson gwis ar thema Harry Potter ym mis Chwefror fel rhan o’r Noson Gwis Harry Potter Genedlaethol Bloomsbury. Bu i 40 o bobl, ifanc a hen, gwrdd i gystadlu a Gwrachod Tregolwyn (Witches of Colwinston) a fu’n fuddugol.