Cost of Living Support Icon

Chwefror 2016 Newyddion

Y Newyddion Diweddaraf o'r Cyngor 

 

Ardal chwarae newydd Castleland i'r chwblhau cyn y pasg - 28 Chwefror 2017

Mae’r gwaith o godi ardal chwarae ar gyfer Castleland yn y Barri yn mynd yn ei flaen yn dda ac mae disgwyl y bydd wedi ei gwblhau erbyn gwyliau'r Pasg.

 

170 o Blant y Barri yn Taro Nodyn Cyffrous! - 27 Chwefror 2017 

Gyda chefnogaeth gan Gymunedau’n Gyntaf y Barri, perfformiodd disgyblion amryw o ysgolion cynradd ac uwchradd y Barri ddigwyddiad cerddorol a gweledol anhygoel yn Ysgol Gyfun y Barri yn ddiweddar.

 

Mae eich cymuned angen chi! - 27 Chwefror 2017

Mae Cymunedau Gwledig Creadigol (CGC), sef tîm adfywio gwledig Cyngor Bro Morgannwg, yn lansio Pecyn Cymorth Mapio Cymunedau ddydd Iau 9 Mawrth 2017, 6pm tan 8pm (bydd y siaradwyr yn dechrau am 6.30pm), Yng Ngwesty’r Arth, Y Bont-faen.  Mae croeso i bawb a bydd lluniaeth ar gael.

 

Cyngor Bro Morgannwg yn diolch i blentyn chwech oed am helpu pobl ddigartref - 27 Chwefror 2017

DIOLCHODD Cyngor Bro Morgannwg i blentyn chwech oed ar ôl wedi i Ysgol Gynradd Fairfield roi dros 60 o Fagiau Cynnes i bobl sy'n cysgu ar y stryd yn ne Cymru o ganlyniad i’w ymgyrch i helpu pobl ddigartref.

 

Defnyddiwr cadair olwyn yn y Fro yn cael ei felt du Karate - 24 Chwefror 2017 

Mae preswylydd ym Mro Morgannwg wedi goresgyn ei gyfyngiadau symudedd a dod y ferch gyntaf yng Nghymru sy’n defnyddio cadair olwyn i gael belt du Karate.

 

Gerddi Gladstone y Barri yn dadorchuddio gwelliannau'r hanner tymor hwn - 22 Chwefror 2017 

Mae gwaith gwella ar gyfleusterau hamdden Gerddi Gladstone y Barri wedi dirwyn i ben yn foddhaol, gyda’r clwydi yn agor i’r cyhoedd yr hanner tymor hwn.

 

Oedolion sy'n dysgu'n dathlu llwyddiant yn Palmerston - 22 Chwefror 2017 

Daeth oedolion sy’n dysgu yng Nghanolfan Addysg Oedolion Gymunedol Palmerston ynghyd yn ddiweddar ar gyfer y seremoni gyflwyno gwobrau flynyddol.

 

Disgyblion Ysgol Gynradd tregatwg yn addurno bocsys adar yn y Parc Baner Werdd, Parc Fictoria - 22 Chwefror 2017

MAE disgyblion o Ysgol Gynradd Tregatwg wedi bod yn paentio bocsys adar a'u rhoi mewn coed o amgylch Parc Fictoria - un o lawer o leoedd awyr agored ym Mro Morgannwg sydd wedi ennill y wobr Baner Werdd.

 

Agor helo newydd dros y comin i draffig - 21 Chwefror 2017

Mae gwaith  ar gynllun £500,000 i wella’r rhwydwaith priffyrdd yn Ninas Powys wedi ei gwblhau, a’r gyffordd newydd dros y comin wedi ei hagor yn swyddogol i’r cyhoedd.

 

Cynnig cynyddu treth gyngor y Fro gan 2.8% - 21 Chwefror 2017

Mae cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cynnig cynyddu’r dreth gyngor i’r sir gan 2.8%.

 

Gwait adeiladu tai cyngor newydd yn y Barri bellach ar y gweill - 20 Chwefror 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau gwaith ar ei ddatblygiad tai Cyngor newydd cyntaf ers 17 mlynedd yn Francis Road, y Barri.

 

Cymorth i fusnesau i gydymffurfio â rheoliadau diogelwch bwyd - 20 Chwefror 2017

MAE’R Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir , y corff sy’n gyfrifol am orfodi pethau fel rheoliadau diogelwch bwyd ledled y Fro, wedi bod yn rhoi cyngor i fusnesau ar sut i gwrdd â safonau mewn digwyddiad gorlawn yn y Stadiwm Principality.

 

Tîm rygbi newydd i ferched yn unig yn manteisio ar ysbryd i chwe gwlad - 20 Chwefror 2017 

Bydd tîm rygbi cyffwrdd newydd yn cynnig cyfle i ferched Bro Morgannwg i efelychu eu harwyr rygbi.

 

Cyfoeth cist gymunedol yn rhoi hwb i glybiau chwaraeon y Fro - 17 Chwefror 2017

Mae nifer o glybiau a sefydliadau chwaraeon wedi elwa’n ddiweddar o gyfanswm o £17,927 o roddion o’r Gist Gymunedol.

 

Arddangosfa Holocost y Ganolfan Gelf Ganolog ar fin dod i ben - 17 Chwefror 2017

BYDD arddangosfa ar erchylltra’r holocost yn yr Oriel Gelf Ganolog, sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Bro Morgannwg, yn dod i ben cyn bo hir.

 

Gwaith yn mynd rhagddo ar leiniau pel-droed 3G newydd ar gyfer y Barri - 14 Chwefror 2017

Mae gwaith adeiladu bellach yn mynd rhagddo ar chwe llain pêl-droed artiffisial ar gyfer Bro Morgannwg yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot yn y Barri.

 

Cynghorau’n gweithio gyda chartrefi gofal i godi safonau diogelwch - 15 Chwefror 2017 

Mae Is-adran Gwasanaethau Masnachol y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi cynnal digwyddiad yr wythnos hon ar gyfer rheolwyr a staff gofal sy’n gweithio mewn cartrefi gofal preswyl ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg i helpu i godi safonau iechyd a diogelwch.

 

Blas ar chwaraeon i ferched ifanc y Fro yn ystod Hanner Tymor - 15 Chwefror 2017 

Bydd tîm Datblygu Chwarae a Chwaraeon Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal digwyddiad chwaraeon yn ystod hanner tymor, gyda’r bwriad o annog mwy o ferched i ymarfer corff. 

 

Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn helpu Undeb Rygbi Cymru i daclo towtiaid tocynnau  - 13 Chwefror 2017  

Mae Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn parhau i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i annog cefnogwyr i wylio rhag tocynnau ffug ar gyfer y Chwe Gwlad.

 

Uned ofal newydd er mwyn cyflymu rhyddhau o’r ysbyty - 09 Chwefror 2017

Mae safle gofal preswyl newydd yn y Barri sy’n pontio rhwng ysbytai a'r cartref wedi ei agor yn swyddogol yr wythnos hon gan y Cyng. Bronwen Brooks.

 

Parc gwledig Porthkerry i gynnal digwyddiad llawn gweithgareddau - 08 Chwefror 2017 

Bydd Parc Gwledig Porthkerry Bro Morgannwg yn cynnal digwyddiad gyda chymorth Cronfa'r Loteri Treftadaeth yn llawn gweithgareddau awyr agored.

 

Llyfrgell y Bont-Faen yn llaw hud a lledrith Hogwarts - 08 Chwefror 2017 

Bu i Lyfrgell y Bont-faen gynnal y drydedd Noson Lyfrau Harry Potter flynyddol yn ddiweddar, a chafwyd noson fythgofiadwy o hud a lledrith i fenthycwyr llyfrau ifainc ar hyd y Fro.

 

Cynllun Academi Chwaraeon i gefnogi sêr chwaraeon y dyfodol yn y Fro - 08 Chwefror 2017 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi uno gyda Legacy Leisure i gefnogi nifer o dalentau chwaraeon ifanc ledled y Fro.



Cyngor Bro Morgannwg yn ymuno â The Place for Homes i roi celfi i'r anghenus - 07 Chwefror 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymuno â siop gelfi The Place For Homes yn Llandŵ i gynnig cadeiriau a soffas am ddim i’r rhai mwyaf anghenus o fewn y Sir.

 

Grŵp cymunedol yn cymryd awenau Llyfrgell y Rhws - 06 Chwefror 2017 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi trosglwyddo llyfrgell Y Rhws a’r gwaith o gynnig gwasanaethau’r llyfrgell ar gyfer y Rhws a’r pentrefi cyfagos i grŵp cymunedol dan arweiniad y Cyng. Jeff James.

 

Ysgol gynradd Palmerston yn gwneud yn hynod o dda mewn archwiliad diweddar - 06 Chwefror 2017 

Mae Ysgol Gynradd PALMERSTON wedi cael archwiliad yn ddiweddar, gan ennill sgôr Rhagorol mewn llawer o adrannau.

 

Llwyfan Golygfa Trwyn Penarth yn ailagor i'r cyhoedd - 03 Chwefror 2017 

MAE Llwyfan Golygfa Trwyn Penarth wedi ailagor wedi i arolygon gadarnhau ei fod yn ddiogel ar gyfer y cyhoedd.

 

Cyfleusterau Ychwanegol I Bobl Anabl Ym Mharciau Penarth - 03 Chwefror 2017 

Mae parciau ym Mhenarth i gael cylchfannau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, wrth i ddyluniadau gwreiddiol gael eu haddasu er mwyn uwchraddio'r meysydd.

 

Cyngor Bro Morgannwg a llywodraeth Cymru yn cytuno i ariannu astudiaeth draffig Dinas Powys - 03 Chwefror 2017 

Mae Cyngor Bro Morgannwg gyda Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu Astudiaeth i archwilio materion a chyfleoedd rhwydwaith trafnidiaeth ar gyfer Dinas Powys.

 

Cymhorthfa Gyllid i gynnig help ar gyfer eich gweithgareddau chwaraeon - 03 Chwefror 2017 

Mae Gwasanaethau Gwirfoddol MORGANNWG yn cynnal Cymhorthfa Gyllid gyda Chwaraeon Cymru, gyda’r bwriad o helpu trigolion gyda’u projectau chwaraeon a gweithgareddau corfforol.