Cost of Living Support Icon

Cymhorthfa Gyllid i gynnig help ar gyfer eich gweithgareddau chwaraeon

 

03 Chwefror 2017

 

Mae Gwasanaethau Gwirfoddol MORGANNWG yn cynnal Cymhorthfa Gyllid gyda Chwaraeon Cymru, gyda’r bwriad o helpu trigolion gyda’u projectau chwaraeon a gweithgareddau corfforol.

 

Os ydych yn rhan o chwaraeon yn y gymuned neu’n cynnal project gweithgareddau corfforol ac angen cymorth ariannol, gallai'r gymhorthfa eich helpu.

 

Mae grantiau’r Gist Gymunedol yn cynnig hyd at £1,500, mewn cyfnod o 12 mis, i glybiau a sefydliadau sy’n cael mwy o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol ledled y Fro. Mae £1,500 pellach hefyd ar gael i’r clybiau hynny sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn chwaraeon.

 

Mae Grantiau Datblygu – yn amrywio o £1,501 i £25,000 – hefyd ar gael ar gyfer:

 

  • Addysg hyfforddi
  • Llifoleuadau at ddibenion hyfforddi
  • Prynu tir neu hawliau yn nhir i ddatblygu ardaloedd gweithgareddau 
  • Grantiau sefydlu i gefnogi mentrau newydd


Er mwyn mynychu’r gymhorthfa, yn gyntaf rhaid i chi e-bostio eich cynnig ar gyfer project (dim mwy nag un ochr o A4), gan gynnwys costau a gwybodaeth am eich grŵp, at dave@GVS.wales erbyn dydd Mercher 8 Chwefror.

 

Os ystyrir, ar ôl adolygu eich cynnig, y bydd o fudd i chwaraeon ac ymarfer corff yn y gymuned, fe’ch gwahoddir i’r Gymhorthfa Gyllid ddydd Iau 16 Chwefror yng Nghanolfan Fenter Gymunedol y Barri.

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Dave Edwards ar 01446 741706 neu dave@gvs.wales.