Cost of Living Support Icon

Agor helo newydd dros y comin i draffig

21 Chwefror 2017

Mae gwaith  ar gynllun £500,000 i wella’r rhwydwaith priffyrdd yn Ninas Powys wedi ei gwblhau, a’r gyffordd newydd dros y comin wedi ei hagor yn swyddogol i’r cyhoedd.

Cross Common Road opening

Dechreuodd y gwaith ar y gyffordd newydd, sy’n ail-gyfeirio traffig i ffwrdd o bont ffordd Cross Common, ar ddiwedd mis Hydref 2016. Wedi iddo gael ei gwblhau agorwyd y gyffordd yn swyddogol i’r cyhoedd yr wythnos hon gan y Cynghorydd Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Adeiladu, Priffyrdd a Chludiant.


Dywedodd y Cyng. King: “Cyn i’r gwaith ddechrau roedd hi’n gwbl amlwg i ni pa mor bwysig oedd y mater hwn i drigolion lleol. Roedd sut i ateb problem a fu'n peri cymaint o benbleth wedi bod yn destun trafod maith ac yn gysgod dros y gymuned am beth amser. Dyna pam, pan gododd y cyfle, y gwnaethom fachu arno i gynnig datrysiad tymor hir a gwelliant gwirioneddol i gerddwyr a modurwyr Dinas Powys.


“Bydd y gyffordd newydd yn fwy diogel i gerddwyr a modurwyr na’r hen fan croesi blaenorol a bydd yn cael gwared ar y peryg o lifogydd a grëwyd gan sylfeini cynnal yr hen bont. Rwy’n falch o allu ei agor i’r cyhoedd.
“Rwyf hefyd yn falch i’r cynllun gael ei gwblhau heb orfod cau ffyrdd, oedd yn golygu y llwyddwyd i amharu cyn lleied ag y bo modd ar breswylwyr lleol a'r rhai sydd yn teithio i’w gwaith.”


Arferai’r rhan honno o’r briffordd sy’n uno Cross Common Road a Ffordd Caerdydd gael ei gwasanaethu gan bont, a’i seilwaith wedi ei gynnal gan ffrâm bren ers 2005. Bu’r ffrâm hon yn dirywio’n raddol.


Yn hytrach nag adnewyddu’r pyst cynnal pren, penderfynodd Cyngor Bro Morgannwg i ddatgymalu’r bont a chreu cyffordd newydd 50 metr yn is i lawr yr afon.


Nawr bod y gwaith ar y gyffordd newydd wedi ei gwblhau, caiff y bont ei chau a gellir dechrau ar y gwaith o’i dymchwel.