Cost of Living Support Icon

Uned ofal newydd er mwyn cyflymu rhyddhau o’r ysbyty

09 Chwefror 2017

Mae safle gofal preswyl newydd yn y Barri sy’n pontio rhwng ysbytai a'r cartref wedi ei agor yn swyddogol yr wythnos hon gan y Cyng. Bronwen Brooks, aelod cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a Maria Battle, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. 

Reablement Unit opening

 

Mae’r uned ailalluogi newydd yng nghartref preswyl Tŷ Dyfan Cyngor Bro Morgannwg yn y Barri ac mae’n cynnig chwe ‘gwely gofal canolraddol’ ar gyfer pobl sy’n barod i’w rhyddhau o'r ysbyty ond mae arnynt angen therapi neu gymorth cyn mynd adref.


Roedd Leah Manley hefyd yn y seremoni agor, sef preswylydd cyntaf yr uned pan agorodd yn niwedd 2016. Daeth Leah i dorri’r rhuban ac i ddatgan yn swyddogol bod yr uned ar agor; cynorthwywyd hi yn yr uned wedi iddi fod yn yr ysbyty ar ôl syrthio. Wedi cwblhau rhaglen ailalluogi pwrpasol, roedd modd iddi fynd yn ôl adref i ofalu am ei gŵr a pharhau i fyw’n annibynnol.


Ariennir yr uned gan y Gronfa Gofal Canolraddol a rhoddir cymorth ar yr uned gan dîm amlddisgyblaeth yn cynnwys staff gofal Cyngor Bro Morgannwg a therapyddion Gwasanaeth Adnodd Cymunedol BIP Caerdydd a’r Fro.


Dywedodd y Cyng. Bronwen Brooks: “Ein nod yw cynnig gwasanaeth pontio rhwng gadael yr ysbyty a mynd adref i bobl y mae arnyn nhw angen ychydig yn rhagor o amser mewn amgylchedd cefnogol er mwyn adennill eu hannibyniaeth.
 

“Mae tîm gofal mewnol y Cyngor yma 24/7 i gynorthwyo preswylwyr a'u helpu nhw i fynd adref cyn gynted â phosibl. Yn dilyn asesiad, maen nhw’n gweithio gyda’r preswylydd i ddatblygu rhaglen ailalluogi ac yna'n gweithio’n agos gyda therapyddion i weithredu hon.
 

“Trwy gynnig cyfleuster ailalluogi yn llwyddiannus, rydym nawr yn gweithio’n effeithiol er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o gymryd gwelyau sy’n peri cymaint o broblemau yng Nghymru.”

 

Mae’r preswylwyr yn yr uned ailalluogi’n derbyn ffisiotherapi bob dydd a sesiynau therapi galwedigaethol yn ogystal â sgyrsiau gwella iechyd; mae hyn oll wedi ei ddylunio i feithrin hyder yn ogystal ag adfer ffitrwydd corfforol.

 

Dywedodd Maria Battle: “Rydym yn falch o gael yr uned ailalluogi hon ym Mro Morgannwg, a fydd yn helpu pobl i fynd yn ôl adref ac i’r gymuned leol yn llawer cynt. Bydd bod yn rhan o’u cynlluniau therapiwtig unigol a derbyn cymorth nid yn unig yn gwella’u hannibyniaeth ond hefyd eu hyder a lles. Mae hyn yn golygu y gallwn ryddhau gwelyau ysbyty er mwyn gallu gofalu am ragor o bobl a’u cadw’n iach.”