Cost of Living Support Icon

Tîm rygbi newydd i ferched yn unig yn manteisio ar ysbryd i chwe gwlad

 

20 Chwefror 2017

 

Bydd tîm rygbi cyffwrdd newydd yn cynnig cyfle i ferched Bro Morgannwg i efelychu eu harwyr rygbi.

 

Atomic Touch - Girls' rugbyMae Phoenix Touch yn dîm newydd i ferched yn unig â’r nod o gynnig cyfle i ferched rhwng 9 a 11 (blynyddoedd 5 a 6) i gymryd rhan mewn ffurf anghorfforol ar y gêm boblogaidd.


Caiff y tîm ei greu yn sgil llwyddiant Atomic Touch, gêm gyflym sy’n debyg i rygbi cyffwrdd, pêl-rwydd a Ffrisbi eithafol. 


Bydd y sesiynau hyfforddi ar gyfer Phoenix Touch yn digwydd bob nos Lun o 6.15pm i 7.15pm, yn dechrau nos Lun 06 Mawrth yn Ysgol Stanwell, Penarth.


Bydd y sesiwn yn cynnig gweithgareddau llawn hwyl, ar sail sgiliau mewn amgylchedd cyfeillgar, un sy’n annog rhagor o ferched ifainc i gymryd rhan.


Mae hyn yn unol â chynllun ‘Merched yn Ymarfer Corff’ tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg. Nod y cynllun yw cynyddu faint o ferched sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff yn y Fro a hyd yma, mae wedi cyflwyno ‘gleuminton’ (badminton gyda gwenoliaid a racedi sy’n goleuo yn y tywyllwch) a grŵp rhedeg i ferched yn unig ym Mhenarth.


Dywedodd y Cyng. Gwyn John, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Gweledol, Hamdden a Rheoliadol: “Mae cynllun ‘Merched yn Ymarfer Corff’ wedi dod â chyfleoedd gwych i ferched ifainc Bro Morgannwg sydd am fod yn fwy actif neu sydd am ymuno â chlwb chwaraeon cyfeillgar.


“Rydyn ni wastad yn ceisio dod â rhagor o gyfleoedd chwaraeon i breswylwyr a’u plant ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y clwb diweddaraf, Phoenix Touch, yn dwyn perswâd ar ragor o bobl i fod yn actif.”


Am ragor o wybodaeth am Phoenix Touch neu ‘Merched yn Ymarfer Corff’, cysylltwch â Sophie Wilkinson drwy slwilkinson@valeofglamorgan.gov.uk