Cost of Living Support Icon

Ardal chwarae newydd Castleland i'r chwblhau cyn y pasg

28 Chwefror 2013

Mae’r gwaith o godi ardal chwarae ar gyfer Castleland yn y Barri yn mynd yn ei flaen yn dda ac mae disgwyl y bydd wedi ei gwblhau erbyn gwyliau'r Pasg.

 

Hunt Place play area work in progress

 

 

Neilltuodd Cyngor Bro Morgannwg £60,000 yn gynharach eleni ar gyfer gwneud gwelliannau sylweddol i’r parc sydd rhwng Heol Holltwn a Hunt Place, ger canol tref y Barri.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad cymunedol dros yr haf er mwyn i drigolion allu lleisio barn ar y cynlluniau, a dechreuwyd ar y gwaith yn gynharach y mis hwn.

 

Aeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Neil Moore, ynghyd â'r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Lis Burnett, ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Rheoleiddio, Hamdden a Gweladwy, y Cynghorydd Gwyn John, ar ymweliad â’r safle yn ddiweddar i weld cynlluniau terfynol yr ardal chwarae a’r gwaith oedd yn mynd rhagddo.

 

Dywedodd y Cyng. Moore: “Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cychwyn ar bennodd ddiweddaraf y gwaith o adfywio'r Barri, gan wella’r mannau cyhoeddus ac ardaloedd chwarae sydd wrth galon ein cymunedau.

 

“Doedd yr ardal chwarae oedd yma gynt ddim yn cael ei defnyddio ddigon, yn rhannol am nad oedd modd ei gweld o’r heol. Dangosodd yr ymgynghoriad fod hyn yn peri gofid i rai rhieni. Yn ogystal â gwella’r offer chwarae a thirlun y parc, felly, rydyn ni hefyd wedi codi ffens wahanol a thorri'r coed er mwyn sicrhau bod y parc yn weladwy o Heol Holltwn.

 

“Dyma un enghraifft yn unig o’r amryw brojectau sydd ar waith ar hyn o bryd yn ein hymdrech i greu cymunedau cryf ledled y Fro.”

 

Bydd llwybrau newydd, siglenni, trogylch a lawnt yn yr ardal chwarae newydd yn Hunt Place.

Mae wyth project tebyg ar waith ledled y Barri a Phenarth ar hyn o bryd, gyda'r nod o wella mannau cyhoeddus a pharciau.