Cost of Living Support Icon

Popty ym Mhenarth yn derbyn dirwy o fwy na £10,000 am droseddau hylendid bwyd

 

08 Mawrth 2017

 

Mae popty ym MHENARTH wedi derbyn dirwy o fwy na £10,000 am gyflawni 36 trosedd hylendid ac mae ei berchennog wedi'i wahardd rhag rheoli busnes bwyd am 10 mlynedd, ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg ddod ag achos i’r llys.


Image001Clywodd Llys Ynadon Caerdydd sut gwelodd swyddogion o’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, y corff sy’n gyfrifol am reoli safonau diogelwch bwyd yn y Fro, doriadau difrifol o reoliadau hylendid, gan gynnwys presenoldeb llygod, pan ymwelon nhw â Modern Bakery, yn masnachu fel Penarth Bakery Limited yn Plassey Street yn y dref.


Ymwelwyd â’r busnes, oedd yn gweithredu fel gwneuthurwr bwyd gan gyflenwi allfeydd eraill yn ogystal â’i siop manwerthu ei hun, nifer o weithiau. Gan fod y toriadau o reoliadau hylendid bwyd mor ddifrifol, roedd yn rhaid i swyddogion ymyrryd er budd iechyd y cyhoedd, gydag 11 hysbysiad gwella’n cael eu cyhoeddi.


Image002Mae’r toriadau a nodwyd yn y safle yn cynnwys: 

 

  • Hylendid personol gwael.
  • Methu â diogelu bwyd rhag halogi.
  • Roedd y safle’n frwnt ac mewn cyflwr gwael.
  • Storio bwyd risg uchel heb reoli’r tymheredd.
  • Methu â sicrhau bod gweithdrefnau digonol ar waith i reoli plâu.  Ni reolid llygod na phryfed yn y safle.
  • Gwerthu bwyd anaddas i’r farchad.
  • Methu â gweithredu na chynnal gweithredoedd diogelwch bwyd ysgrifenedig yn y busnes, yndangos diffyg rheolaeth a gofal.
  • Methu â chydymffurfio â’r wyth hysbysiad gwella hylendid. 

 

Tra’n ymddangos yn y llys ddydd Iau diwethaf, plediodd Gareth Spray yn euog i 28 trosedd am fethiant fel gweithredwr y busnes bwyd mewn perthynas â hylendid bwyd ac wyth trosedd bellach am fethu â chydymffurfio â hysbysiadau gwella hylendid. 

 

Plediodd yn euog hefyd i ddwy drosedd gwerthu bwyd nad yw’n addas i bobl ei fwyta. Cyflawnwyd yr un drosedd gan y cwmni, Penarth Bakery Limited gyda throsedd ychwanegol am fethu ag arddangos y sticer sy'n dangos eu sgôr hylendid bwyd o 0.

 

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Rhanbarth Bodfan Jenkins fod gan Mr Spray a’i gwmni ddiffyg parch amlwg i’r gyfraith a bod pawb sy'n rhan o'r cwmni wedi ymddwyn yn ofnadwy o ran cyflwr y safle a'r offer, sy'n ddigon i godi cyfog ar rywun.

Dywedodd fod yr ymdrechion i ddatrys y problemau’n rhy ychydig yn rhy hwyr."

 

Image003

Dedfrydwyd Mr Spray i bedwar mis yn y carchar, wedi’i ohirio am 12 mis, am y ddwy drosedd fwyaf difrifol am werthu bwyd nad yw'n addas i bobl ei fwyta. 

 

Gorchmynnwyd iddo weithio 200 awr heb dâl a chyflawni gweithgaredd  adsefydlu o hyd at 15 diwrnod.

 

Am y 36 o droseddau eraill, cafodd ddirwy o £200, sy’n dod i gyfanswm o £7200. Yn ogystal, gorchmynnwyd iddo dalu costau o £1400 a thâl dioddefwr o £115.

 

Gwaharddwyd Mr Spray rhag rheoli unrhyw fusnes bwyd am 10 mlynedd. 

Image004

 

Yn ogystal, cafodd Penarth Bakery Limited ddirw

y o £1300 am y ddwy drosedd fwyaf difrifol a £200 am bob trosedd arall sy’n dod i gyfanswm o £10,000. Hefyd, gorchmynnwyd i’r cwmni dalu costau o £1400 a thâl dioddefwr o £200.

 

Dywedodd y Cyng. Gwyn John, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gweladwy, Hamdden a Gwasanaethau Rheoliadol:

 

“Yn ffodus, mae achosion fel hyn yn brin ar draws y rhanbarth ac mae rhan fwyaf y busnesau bwyd yn gweithio'n galed i sicrhau y cynhelir y safonau hylendid bwyd uchaf bosibl. Serch hynny, mae canlyniad yr achos llys hwn yn anfon neges glir y cymerir camau gweithredu llym pan fo’u hangen i ddiogelu’r cyhoedd.”