Cost of Living Support Icon

Cyfleusterau Ychwanegol I Bobl Anabl Ym Mharciau Penarth

 

03 Chwefror 2017

 

Mae parciau ym Mhenarth i gael cylchfannau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, wrth i ddyluniadau gwreiddiol gael eu haddasu er mwyn uwchraddio'r meysydd.

 

Bydd y rhain ym meysydd chwarae Plassey Square a Penarth Cliff Walk – fel y byddant yn fwy hygyrch i bobl anabl – fel rhan o gynigion Cyngor Bro Morgannwg i uwchraddio nifer o feysydd chwarae ym Mhenarth.


Mae £600,000 wedi’i glustnodi i wella parciau yng ngogledd Penarth, gan gynnwys Plassey Square, Dingle Park, Maes Hamdden Cogan a Paget Road ar ôl derbyn cyfraniadau adran 106. Mae gwaith i adnewyddu maes chwarae Penarth Cliff Tops yn bosibl o ganlyniad i gyllid mewnol Cyngor Bro Morgannwg. 


Mae’r gwaith o uwchraddio'r gylchfan yn Plassey Square fel y bydd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yn bosibl o ganlyniad i gyllid S106. Mae’r gylchfan yn Penarth Cliff Top, a fydd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, yn cael ei hariannu drwy’r cyllid adnewyddu asedau Adrannol ar gyfer 2016/17 ac mae costau’r gwaith o osod ac arwynebu’r offer ychwanegol hwn yn cael eu talu gan y contractwr chwarae, Sunshine Playgrounds fel arwydd o ewyllys da i’r gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a’r Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, fod gwneud meysydd chwarae ym Mhenarth yn hygyrch i drigolion anabl bob amser wedi bod yn ‘rhan fawr’  o’r holl gynlluniau i uwchraddio parciau ym Mhenarth.


Dywedodd: “Ystyriodd dylunwyr meysydd chwarae amrywiaeth o faterion wrth lunio eu cynigion ar gyfer uwchraddio Penarth, gan gynnwys mynediad, lliw, amrywiaeth yr offer a fyddai'n cynnig gweithgareddau amrywiol, ac arwyneb priodol. 
“Rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau y gall plant o bob gallu chwarae gyda’i gilydd yn ein parciau. Mae'r cynigion hyn yn gyffrous iawn a byddant yn ased mawr ym Mhenarth."


Dywedodd Anna Murphy, cyd-sefydlwr Oshi’s world, elusen leol sy’n cefnogi teuluoedd plant ag anableddau ac anghenion arbennig, “Mae’n wych clywed bod Cyngor Bro Morgannwg wedi uwchraddio’r cynlluniau ar gyfer y ddau faes chwarae hyn i gynnwys cylchfannau sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Bydd hyn yn galluogi fy mab a’i gyfeillion ynghyd â phlant eraill i fwynhau’r cyfleusterau newydd.”


Bydd y gwaith o uwchraddio’r meysydd chwarae hyn yn dechrau fis yma a bydd yn para am dua 4 – 6 wythnos.