Cost of Living Support Icon

Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn helpu Undeb Rygbi Cymru i daclo towtiaid tocynnau  

 

13 Chwefror 2017 

 

Mae Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn parhau i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i annog cefnogwyr i wylio rhag tocynnau ffug ar gyfer y Chwe Gwlad.

 

Rugby-player-kicking-ballMae trigolion Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd a brynodd tocynnau ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Lloger, yn ogystal â’r rhai hynny sydd dal i edrych am docynnau ar gyfer gêm Cymru v Lloegr, wedi cael cyngor i brynu tocynnau swyddogol bob amser.  

 

Mae ‘Wedi gwerthu allan’ yn golygu nad oes gan Undeb Rygbi Cymru fwy o docynnau i’w gwerthu ar gyfer y gêm, ond mae nifer o ffyrdd swyddogol eraill (hyn a hyn o docynnau ar gael) o brynu tocynnau ar gyfer gemau yn Stadiwm Principality trwy glybiau Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid Undeb Rygbi Cymru; Events International, Gullivers Sports Travel a Seatwave. 

 

Er hynny, mae galw uchel am docynnau yn golygu bod mwy o siawns y gwerthir tocynnau ffug neu annilys i gefnogwyr os ydynt yn eu prynu gan ffynonellau answyddogol - gan fentro i berygl o beidio â gallu mynd i mewn i'r Stadiwm i wylio'r gêm. 

 

Dywedodd Pennaeth Gwerthiannau a Marchnata Grŵp Undeb Rygbi Cymru:

 

“Mae'r posibilrwydd y bydd cefnogwyr yn gwario llawer o arian ar docynnau i weld gêm yn y Stadiwm Principality ac yna gael eu siomi yn codi oherwydd poblogrwydd y digwyddiad ac mae galw uchel wedi bod am gemau Lloegr ac Iwerddon eleni.” 

 

“Rydym yn annog cefnogwyr i sicrhau eu bod yn prynu tocynnau swyddogol, gan mai hon yw'r unig ffordd y gall Undeb Rygbi Cymru warantu bod y tocyn yn ddilys ac y caiff cefnogwyr fynd i mewn i’r stadiwm a chael y profiad gorau posibl. 

 

“Rydym yn gwneud popeth y gallwn ar ddiwrnod gêm i helpu cefnogwyr sydd wedi’u twyllo, ond pan nad oes tocynnau ar ôl, os dewch gyda thocyn annilys, nid oes llawer y gallwn ei wneud.“ 

 

Mae’r tîm Safonau Masnach yn GRhR, sy’n gweithio yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr yn gyfarwydd iawn â sgamiau o'r natur hon, ac am dynnu sylw trigolion at docynnau ffug. 

 

Mae Dave Holland, Pennaeth Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn cynnig y cyngor canlynol:

 

“Yn aml rydym yn derbyn cwynion am docynnau gêm sydd heb gyrraedd neu nad ydynt yn gweithio ar ddiwrnod y digwyddiad. Mae twyll tocynnau ar-lein bellach yn fusnes mawr gyda masnachwyr twyllodrus yn gweithredu yma yn y DU a thu hwnt. Mae angen i ddefnyddwyr fod yn ymwybodol, os ydynt yn gwario cannoedd neu hyd yn oed filoedd o bunnoedd ar docynnau gan ffynhonnell heb ei gwirio, yna gallan nhw fethu’r gêm, ond yn bwysicaf, golli eu harian am byth. 

 

“Er y byddwn yn ymchwilio i arferion busnes twyllodrus, nid oes awdurdod gennym dros wefannau sydd y tu allan i’r DU. Os yw defnyddwyr yn penderfynu prynu gan ffynhonnell ar-lein, rydym yn eich annog yn gryf i dalu gyda cherdyn credyd gan fod hyn yn eich amddiffyn ymhellach os byddwch yn gwario £100 neu fwy. O’n persbectif ni, mae hyn yn berthnasol i bob digwyddiad chwaraeon, yn ogystal â gwyliau cerddorol, cyngherddau ac ati.

 

“Mae’n hawdd i dwyllwyr sefydlu gwefan ffug sy’n edrych yn ddilys. Bydd rhai yn defnyddio enw neu gyfeiriad gwefan sy’n debyg iawn i wefan gyfreithlon.  Os nad ydych yn siŵr neu os yw’r cynnig yn ymddangos yn rhy dda, gadewch y wefan a pheidiwch â rhoi eich manylion talu, gan y gallwch fod mewn perygl o dwyll hunaniaeth."