Cost of Living Support Icon

Cynllun Academi Chwaraeon i gefnogi sêr chwaraeon y dyfodol yn y Fro

 

08 Chwefror 2017

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi uno gyda Legacy Leisure i gefnogi nifer o dalentau chwaraeon ifanc ledled y Fro.

Cllr. John with successful sports academy applcants

 

Mae Cynllun yr Academi Chwaraeon yn cynnig mynediad am ddim i gyfleusterau hamdden Cyngor Bro Morgannwg i aelodau llwyddiannus yr Academi. Drwy dynnu’r baich ariannol hwn, mae’r Cyngor yn gobeithio y gall yr athletwyr ganolbwyntio ar eu hyfforddiant a chyflawni eu nod ym myd y campau.


Dywedodd Rheolwr Datblygu Chwarae a Chwaraeon y Cyngor, Karen Davies: “Mae’r Fro yn ffodus fod nifer fawr o breswylwyr gennym yn cystadlu ar lefel uchel iawn, gan olygu bod cystadleuaeth dda am nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar y cynllun. 


“Mae pob un o’r ymgeiswyr llwyddiannus yn gystadleuwyr rhyngwladol dros Gymru ac yn aelodau o sgwadiau Cymru yn eu campau, gyda sawl un yn cystadlu dros dimoedd Prydain.Mae Matilda Mathews o’r Barri yn un o aelodau llwyddiannus yr Academi Chwaraeon sydd wedi cystadlu dros Team GB. 


Mae wedi cystadlu ym Mhencampwriaeth Hwylio 420 y Byd, ac yn y Cwpan Byd – cystadleuaeth y mae’r enillydd medal arian Olympaidd, Hannah Mills o Ddinas Powys, hefyd wedi cystadlu arni – ynghyd a Phencampwriaeth Ieuenctid y Byd. 


Uchelgais Miss Mathew ar gyfer 2017/18 yw aros yn nhîm Prydain a chamu o’r sgwad ieuenctid i’r sgwad Olympaidd.
Mae Kristian Jones, gwibiwr 18 oed o Dreoes, yn breswylydd lleol arall sydd wedi cynrychioli Prydain mewn amrywiol ddigwyddiadau rhyngwladol. 


Ef yw’r pencampwr dan-20 presennol ar y 100m a’r 200m, a llwyddodd i ennill ei le yn y treialon Olympaidd Prydeinig. Mae ar hyn o bryd yn hyfforddi gyda sgwad Prydain, ac yn gobeithio cymhwyso ar gyfer Gemau’r Gymanwlad fel unigolyn, ac fel rhan o dîm y ras gyfnewid.


Mae aelodau llwyddiannus eraill yr Academi Chwaraeon yn cynnwys taflwr disgen, reslar sy’n anelu am Gemau’r Gymanwlad yn 2018, pencampwr Prydeinig ar achub bywydau yn y môr, pencampwr Prydeinig ar wibio mewn caiac sy’n anelu am Gemau'r Gymanwlad a’r Gemau Olympaidd, hwylwyr Prydeinig, a chystadleuydd Taekwondo rhyngwladol sy’n ail ym Mhrydain ar hyn o bryd.


Dywedodd y Cyng. Gwyn John, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Gweledol, Hamdden a Rheoliadol, am Gynllun yr Academi: “Roedd hi’n dasg hynod anodd i aelodau’r panel ddewis pwy fyddai’n llwyddo i ennill y llefydd.


“Mae’n ffantastig fodd bynnag i weld talent mor wych sy’n dod allan o Fro Morgannwg, llawer ohono wedi ei feithrin gan y clybiau chwaraeon cryfion sydd gennym yn y sir.


“Rydym yn gobeithio y bydd eu haelodaeth gyda’r Academi Chwaraeon yn eu helpu nhw gyda’u gyrfaoedd chwaraeon."


Caiff aelodaeth yr Academi Chwaraeon ei bennu yn flynyddol, gyda phob lle ar gyfer 2017 wedi ei gymryd. Derbynnir ceisiadau ar gyfer cyfnod 2018 tua mis Hydref.