Cost of Living Support Icon

Cyngor Bro Morgannwg a llywodraeth Cymru yn cytuno i ariannu astudiaeth draffig Dinas Powys

 

03 Chwefror 2017

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg gyda Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu Astudiaeth i archwilio materion a chyfleoedd rhwydwaith trafnidiaeth ar gyfer Dinas Powys.

 

Caiff yr arian ei wario ar ddadansoddi rhwydwaith trafnidiaeth bresennol y pentref, gyda’r bwriad o nodi unrhyw faterion a ffyrdd o'u datrys.


Mae trafodaethau wedi bod rhwng swyddogion y Cyngor a swyddogion Llywodraeth Cymru ar y pwnc am nifer o wythnosau.


Penderfynwyd y cynhelir astudiaeth o’r materion a’r cyfleoedd rhwydwaith trafnidiaeth yn Ninas Powys yn ystod y misoedd i ddod gydag arian ar gyfer yr Astudiaeth yn dod o'r ddau barti. Cost yr Astudiaeth fydd tua £15 000.


Dywedodd y Cyng. Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Adeiladu, Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rydym yn ymwybodol o bryderon trigolion ynghylch y sefyllfa draffig yn Ninas Powys.


“Ar ôl trafodaethau llwyddiannus, rydym yn falch o gyhoeddi, gyda Llywodraeth Cymru, y byddwn yn cynnal astudiaeth eang o’r rhwydwaith trafnidiaeth yn Ninas Powys. Yn rhan o’r broses hon ymgynghorir â chynrychiolwyr y gymuned leol a bydd cyfleoedd i bobl gyflwyno eu syniadau a gaiff eu hystyried.  Rydym yn gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn nodi atebion realistig y gallwn ni eu gweithredu i’r materion a nodwyd.”