Cost of Living Support Icon

Defnyddiwr cadair olwyn yn y Fro yn cael ei felt du Karate

 

24 Chwefror 2017

 

Mae preswylydd ym Mro Morgannwg wedi goresgyn ei gyfyngiadau symudedd a dod y ferch gyntaf yng Nghymru sy’n defnyddio cadair olwyn i gael belt du Karate.

 

Lisa "Maddy" Thomson becomes the first female wheelchair user in Wales to achieve black belt status

 

Bu i ddiddordeb Lisa “Maddy” Thomson o Ddinas Powys mewn Karate gynnau yn 2012 pan oedd yn wynebu anawsterau wrth wneud campau eraill oherwydd bod ei symudedd yn dirywio.


Maddy oedd yn o’r cyntaf i ymuno â chwrs o 10 sesiwn blasu Karate yn y Ganolfan Ddydd Newydd, Horizons yn y Barri.

 

 

Trefnwyd y sesiynau gan Linda Ruston, Swyddog Gwasanaethau Dydd yn y Ganolfan Ddydd. Mae’r Ganolfan yn cynorthwyo oedolion ag anableddau corfforol ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg sy’n ei gweithredu.


Aeth Maddy a 10 arall o oedrannau amrywiol ac ag anableddau gwahanol i'r 10 sesiwn hyn.


Dywedodd Maddy:  “I ddechrau, roeddwn i’n chwilio am rywbeth a fyddai’n fy nghadw i’n actif gan fy mod i’n dibynnu ar fy nghadair olwyn i symud trwy’r amser oherwydd fy Nghrydcymalau Gwynegol, a doeddwn i ddim yn gallu gwneud chwaraeon eraill roedd gen i ddiddordeb ynddyn nhw.”


Aeth o nerth i nerth ac o fewn ychydig fisoedd, roedd hi wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau ac wedi cael ei gradd Karate gyntaf.


Aeth trwy’r beltiau o wahanol liwiau a’r graddau yn gyflym tan y cafodd ei statws belt du yn y pen draw ym mis Rhagfyr 2016. 


Wrth gwrs, roedd Maddy’n hynod o falch, dywedodd: “Rwy’n cofio fy nghystadleuaeth gyntaf ac roeddwn i’n swp sâl ond eto rhoddodd hwb enfawr i fy hyder.


“Rhoddodd yr hyder hwn y gallu i mi gymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau trwy Gymru a’r DU, o Abertawe a Merthyr i ogledd Lloegr a’r Alban, a gwnes arddangosiad Karate ar gyfer y fyddin hyd yn oed, mewn digwyddiad yn Aldershot ar gyfer milwyr wedi eu hanafu.


“Wedi i mi dderbyn y belt du, rwyf wedi hyfforddi yn fy ngwers gyntaf yn y ganolfan ddydd gyda fy nghyd-aelod yn y ganolfan, Adam, a fu’n dangos y cicio ar fy rhan. 


“Fy nod nesaf yw gwella fy sgiliau addysgu er mwyn i mi allu mynd ymlaen i hyfforddi rhagor yn y dyfodol.”


Diolchwyd Rob Green, Sensei Maddy ar hyn o bryd, am godi proffil Karate i bobl anabl ac am agor meddyliau pobl i’r syniad o ‘chwaraeon i bawb’.


Dywedodd, wrth sôn am Lisa: “Mae hi'n wir ysbrydoliaeth, nid yn unig i chwaraeon i'r anabl, ond i ferched yn gyffredinol, ac mae hi, gyda nerth meddwl, wedi goresgyn nifer o rwystrau er mwyn mynd y tu hwnt i'w disgwyliadau. Rwy’n hynod falch ohoni.”


Mae Maddy’n parhau i hyfforddi yn y Ganolfan Ddydd ac yn Academi St Pat, ac mae pedwar o’i chyd-ddysgwyr yn y sesiynau blasu cyntaf yn parhau i wneud Karate yn y Ganolfan Ddydd. 


Mae naw cleient o Wasanaeth Dydd Woodlands a chanddynt anableddau dysgu nawr yn mynychu’r sesiynau hyn yn y Ganolfan Ddydd.