Cost of Living Support Icon

Mae eich cumuned angen chi!

 

27 Chwefror 2017


Mae Cymunedau Gwledig Creadigol (CGC), sef tîm adfywio gwledig Cyngor Bro Morgannwg, yn lansio Pecyn Cymorth Mapio Cymunedau ddydd Iau 9 Mawrth 2017, 6pm tan 8pm (bydd y siaradwyr yn dechrau am 6.30pm), Yng Ngwesty’r Arth, Y Bont-faen.  Mae croeso i bawb a bydd lluniaeth ar gael.


RSVP erbyn dydd Iau 2 Mawrth 2017 i create@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 01446 704226 er mwyn helpu gyda’r trefniadau arlwyo. Os hoffech gyfrannu yn Gymraeg neu os oes gennych unrhyw ofynion gofal plant, trafnidiaeth neu eraill i’ch galluogi i fynychu’r digwyddiad hwn, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn ateb. 


Bydd y noson yn rhoi cyfleoedd i gael cyngor, awgrymiadau a chymorth gan y tîm, dysgu rhagor am gyllid cymunedol sydd ar gael a rhyngweithio gydag eraill sy’n ymwneud â gweithgareddau lleol yn y Fro wledig.  Mae pecyn cymorth CGC yn llawn awgrymiadau, cyngor a thaflenni gwaith defnyddiol i’ch helpu i ymgysylltu â’ch cymuned.  Bydd pob grŵp sy’n mynychu yn gallu derbyn pecyn cymorth am ddim.  Mae croeso i bawb ddod heibio a dysgu rhagor am sut i ymgysylltu â’ch cymuned.  

 

Mae'r Cynghorydd Lis Burnett, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet, Adfywio ac Addysg, yn gobeithio gweld cymaint o bobl â phosibl yn y digwyddiad a dywedodd

‘Mae’r project peilot mapio cymunedol wedi dod â phobl ynghyd er mwyn hyrwyddo a gyrru ymlaen gweithgareddau newydd a chael mynediad at gyfleoedd ar gyfer cyllid.  Hoffwn annog grwpiau cymunedol a gwirfoddol i roi cynnig ar fapio cymunedol er mwyn adnabod eu blaenoriaethau lleol ac arddangos y gweithgareddau yn eu hardal’ 

Bu CGC yn brysur dros y 12 mis diwethaf yn gweithio gyda grwpiau cymunedol yn Sain Tathan, Gwenfô, Y Rhws ac Ystradowen ar y project Peilot Mapio Cymunedol.  Trwy gyfres o weithgareddau ymgysylltu cymunedol ac arolygon cymunedol, mae’r grwpiau wedi llwyddo i ddysgu beth yw blaenoriaethau eu trigolion, trefnu digwyddiadau a gweithgareddau lleol a gwneud cais am gyllid.