Cost of Living Support Icon

Lyfrgell y Barri'n dathlu ei dengmlwyddiant

 

17 Ionawr 2017

 

Ymunodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Neil Moore, â llu o bwysigion ac aelodau’r cyhoedd i ddathlu dengmlwyddiant Llyfrgell y Barri.

 Leader, Neil Moore, joins others at Barry Library's ten-year anniversary

 

Gwnaeth y safle ddathlu degawd ers ei agor gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau’r penwythnos diwethaf. 


Ddydd Gwener, roedd ffotograffau o’r Barri ar ddangos, her ffotograffiaeth ac arddangosiad o’r llyfrau a fenthycir fwyaf a chyfle i bobl gofrestru ar gyfer grwpiau lliwio, crosio a darllen.


Ddiwrnod yn ddiweddarach, bu storïwyr yn diddanu ymwelwyr a allai hefyd fynd i gymhorthfa ar hanes teuluol a mwynhau gwneud crefftau tra roedd perfformiad gan Gôr Meibion y Barri.Roedd amrywiaeth o weithgareddau eraill yn digwydd dros y deuddydd hefyd.


Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Allai ddim credu bod degawd wedi mynd heibio; rwy'n cofio'r dydd yr agorodd y llyfrgell yn iawn. Mae lluniau'r dathlu ar y waliau heddiw yn ein hatgoffa sut olwg oedd ar y llyfrgell a hen swyddfeydd y Cyngor trwy'r oesau. Rwy’n credu bod hwn yn lle hyfryd i ymweld ag e, a nawr mae’r ganolfan ddysgu lan stâr yn ychwanegu at y profiad.


“Mae yna ffotograffau o pan oedd y lle wedi ei fordio. Rwy’n cofio hynny’n dda oherwydd roeddwn yn gweithio yn Heol Holltwn a gwyliais i adeiladu’r Swyddfeydd Dinesig yn mynd i fyny, a arweiniodd at gau’r adeilad hwn. Rwy’ hefyd yn cofio dod yma gyda’m merch pan oedd hi’n dair oed (mae hithau bellach yn ddigon hen i fod yn fam) a phrotestio am yr adeilad yn mynd yn adfail.

 

“Roedden ni am i’r lle agor, nid er budd gwleidyddol ond i sicrhau y deuai'r adeilad yn ôl er defnydd y gymuned. Dywedon ni ‘chewch chi ddim gadael adeilad eiconig fel hwn yn wag!’ Rwy’n cofio’r anghydfod bryd hynny. Fel y dywedodd Max Boyce: 'Mae baddondai'r pyllau bellach yn archfarchnad’, a bu bron i ni gael archfarchnad yma hefyd.  Dyfalbarhad rhai ohonon ni yn y Cyngor a phobl o’r un feddylfryd yn y gymuned a ataliodd hyn rhag digwydd. Mae’r cyfleuster yn dyst i ymdrech pobl ar y cyd i wneud rhywbeth yn llwyddiant.


“Mae’r adeilad wedi dod yn rhywbeth sydd mor eiconig, y cwbl galla i ei ddweud yw ‘diolch yn fawr i’r holl staff; rydych chi wedi gwneud gwaith arbennig.’ Hoffwn i hefyd ddiolch i aelodau’r llyfrgell ac i ymwelwyr eraill sy'n benthyg llyfrau, CDs, DVDs ac yn defnyddio'r holl gyfleusterau sydd ar gael. Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gwneud yr hyn wnaethon ni. Diolch i bawb, heboch chi, fyddai hyn heb fod yn llwyddiant."


Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’r newid yn ein bywydau wedi mynd yn ddramatig o sydyn, ac weithiau dydy hyn ddim yn braf. Nawr, mae peth wmbreth o wybodaeth yn cael ei llyncu’n ddigidol ac mae pobl lawn cyn debyced o ddarllen papurau newydd neu nofelau ar fysus ar eu ffordd i’r gwaith neu mewn caffis ac mae pobl yn mynd i banig pan maen nhw’n colli eu ffonau clyfar.


“Fodd bynnag, dydy hyn ddim yn golygu o gwbl fod llyfrgelloedd yn llai pwysig. Mae ein llyfrgelloedd yn newid ac os ydyn ni'n edrych ar Lyfrgell y Barri dros y blynyddoedd diwethaf yn unig, gyda'r holl weithgareddau arbennig, fe welwn ni fod rhywbeth yn digwydd o hyd.


“Fel Cyngor, os ydyn ni am greu cymunedau cryfach gyda dyfodol disglair, sef ein gweledigaeth gorfforaethol, byddwn i'n dadlau bod llyfrgelloedd yn bwysicach fyth. Mae angen iddyn nhw fod yn ganolbwynt yn ein cymunedau. Mae ein llyfrgelloedd yn esblygu’n gyson i ateb gofynion bywyd modern, ond un peth sydd ddim yn newid yw ymroddiad, creadigrwydd ac angerdd diamod ein staff. Dyma'r un peth cyson yn y llyfrgelloedd.  Hoffwn i ychwanegu fy niolch innau at eiriau o ddiolch yr Arweinydd i’r staff i gyd sy’n gweithio mor galed.


“Nawr, gan fod y ganolfan ddysgu wedi ei hychwanegu at y llyfrgell, mae modd defnyddio cyfleusterau TGCh yma a bydd yr oriau agor yn ehangu’n fuan iawn felly gobeithio y bydd hyn yn denu mwy a mwy o bobl i ddefnyddio’r llyfrgell a deall pa mor anhygoel yw’r adnodd.”