Cost of Living Support Icon

Llyfrgell y Barri i estyn oriau agor drwy lansio system mynediad agored

12 Ionawr 2017

 

Bydd Llyfrgell y Barri yn lansio system mynediad agored newydd gyffrous, gan alluogi aelodau i ddefnyddio'r cyfleusterau y tu allan i oriau staffio arferol.

 

Mae’r system, a ddarperir gan Bibliotheca, yn defnyddio technoleg arloesol i agor llyfrgell a rheoli’r holl systemau sylfaenol heb fod y gweithwyr yno.

 

librarypicMae’r cysyniad hwn o lyfrgell agored yn ffordd newydd o weithio i lyfrgelloedd cyhoeddus sydd wedi’i threialu a'i gweithredu’n llwyddiannus yn Sgandinafia.  

 

Y llyfrgell gyntaf yn y DU i fabwysiadu’r cysyniad oedd Farsley yn Leeds er mwyn gallu agor yn gynharach.

 

Erbyn diwedd 2016 roedd mwy a mwy o lyfrgelloedd mewn nifer o awdurdodau yn mabwysiadu’r dull gweithredu llyfrgell agored ar ryw ffurf.

 

Fel gyda sawl lleoliad arall, yn Llyfrgell y Barri byddwn yn gweithredu’r newid fesul cam er mwyn i’r cwsmeriaid allu ymgyfarwyddo â’r dechnoleg newydd. Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i ni asesu’r galw.

 

Bwriad y Barri yw estyn yr oriau agor gyda’r nos yn ystod yr wythnos, ac mae cynnig gwasanaeth ar ddydd Sul hefyd yn bosibilrwydd.

 

Mae Bibliotecha yn ddarparwr arweiniol yn y maes hwn ac yn darparu’r dechnoleg ar gyfer y rhan fwyaf o lyfrgelloedd mynediad agored yn y DU ac Iwerddon.  

 

Gall system Open+ Bibliotecha reoli a monitro drysau, mynediad i gwsmeriaid, goleuadau, gatiau diogelwch, CCTV, y system gyhoeddiadau a chloi.

 

Mae hyn yn galluogi pobl i ddefnyddio’r llyfrgell heb fod staff yn bresennol, gan gynnwys gwasanaethau hunan-gyhoeddi a dychwelyd a mynediad TGCh ar gyfrifiaduron neu Wi-Fi y llyfrgell. 

 

Bydd hefyd yn galluogi Canolfan Ddysgu’r Fro Newydd yn y Llyfrgell Ganolog i gynnig amrywiaeth o gyrsiau y tu allan i oriau agor presennol y llyfrgell.