Cost of Living Support Icon

Awdurdodau Lleol Prifddinas-Ranbarth Caerydd i bleidleisio ar Fargen Ddinesig


20 Ionawr 2017

 

Yn dilyn llofnodi Cytundeb Penawdau’r Telerau rhwng deg awdurdod lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), yn ogystal â Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru ym mis Mawrth 2016, mae’n rhaid i bob un o’r awdurdodau lleol gymeradwyo Cabinet Rhanbarthol yn ffurfiol, sy’n cynnwys arweinwyr yr awdurdodau perthnasol. Bydd y Cabinet Rhanbarthol, sydd ar hyn o bryd â statws Cysgod, yn goruchwylio twf economaidd y rhanbarth a chyflawni’r cynigion o dan y Fargen Ddinesig.

 

Mae’r Fargen Ddinesig yn cynnwys rhaglen o fuddsoddi gwerth £1.2 biliwn yn yr economi rhanbarthol, yn cynnwys £734 miliwn ar gyfer creu cynllun trafnidiaeth Metro De-ddwyrain Cymru.  Mae’n rhaid i bob awdurdod gymeradwyo ymrwymiad gan y deg awdurdod i gael benthyg cyfanswm o £120 miliwn fel rhan o Gronfa Fuddsoddi Ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

 

Dynododd Cabinet Cysgodi Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o arweinwyr awdurdodau lleol yn ei gyfarfod ar 06 o Ionawr 2017, yr hoffai i bob awdurdod fod wedi cytuno ar yr ymrwymiadau hyn erbyn 09 Chwefror 2017 – gan alluogi’r Cabinet Rhanbarthol i ddod allan o’i statws Cysgodi o 01 Mawrth 2017.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, cadeirydd Cyd-Gabinet Cysgod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:

“Mae hon yn rhan bwysig o broses y Fargen Ddinesig.  Gweithiodd y deg awdurdod yn eithriadol o agos dros yr 6 mis diwethaf i gael y Fargen Ddinesig i’r sefyllfa hon, ond mae cefnogaeth i’r Fargen Ddinesig oddi wrth aelodau’r awdurdodau hynny yn hanfodol os ydym am fwrw ymlaen gyda’n gilydd â’r Fargen hynod gyffrous hon.

“Gyda’n gilydd, gallwn greu newid economaidd a chymdeithasol sylweddol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, drwy well trafnidiaeth, cefnogi arloesi, gwell rhwydwaith digidol, ddatblygu sgiliau, cefnogi menter a thwf busnes, a thrwy ddatblygiadau tai ac adfywio.”

Y deg awdurdod lleol yw: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Bro Morgannwg.