Cost of Living Support Icon

Newyddion Ionawr 2017 

Y Newyddion Diweddaraf o'r Cyngor  

 

Sesiynau briffio i'w cynnal at yr etholidau sydd i ddod - 30 Ionawr 2017 

Mae Swyddog Canlyniadau Cyngor Bro Morgannwg, Debbie Marles, yn croesawu’r holl Gynghorwyr, ac unrhyw ddarpar Gynghorwyr posibl, i gyfres o sesiynau briffio i Ymgeiswyr ac Asiantau ar gyfer yr Etholiadau Llywodraeth Leol sydd i ddod ym mis Mai 2017.

 

Ardal Chwarae Hatch Quarry i Gau Wedi Iddi Dywyllu - 25 Ionawr 2017

Bydd ardal chwarae Hatch Quarry nawr yn cau y tu allan i oriau golau ddydd wrth i Gyngor Bro Morgannwg frwydro i ymdopi â fandaliaeth barhaus.

 

Gwirfoddoli yn arwain at gyflogaeth ar gyfer trigolyn ifanc y Fro - 23 Ionawr 2017

Mae trigolyn IFANC Bro Morgannwg wedi cael ei swydd gyntaf ar ôl gweithio fel gwirfoddolwr trwy Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS).

 

Cwblhau gwasanaeth Casglu coed Nadolig y Fro - 23 Ionawr 2017 

Mae timau gwastraff ac ailgylchu Cyngor Bro Morgannwg wedi cael amser brysur yn casglu coed Nadolig trigolion yn ddiweddar, gyda thrigolion yn gallu eu cyflwyno wrth ymyl y ffordd gyda’u casgliadau gwastraff ac ailgylchu rheolaidd. 

 

Ffair Wirfoddoli Fawr gyntaf y Fro yn llwyddiant aruthurol - 20 Ionawr 2017

Daeth dros 300 o bobl ynghyd yng Nghanolfan Gelf y Memo ddydd Mercher 18 Ionawr 2017 ac fe’u croesawyd gan 56 o ddarparwyr gwasanaethau gwirfoddol oedd am godi eu proffil a recriwtio gwirfoddolwyr.

 

Awdurdodau Lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i bleidleisio ar Fargen Ddinesig - 20 Ionawr 2017

Ymhellach i lofnodi'r Cytundeb Penawdau’r Telerau rhwng y deg awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), yn ogystal â Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru ym mis Mawrth 2016, mae’n rhaid i bob un o’r awdurdodau lleol gymeradwyo Cabinet Rhanbarthol yn ffurfiol, sy’n cynnwys arweinwyr yr awdurdodau perthnasol.

 

Wedi’ch drysu gyda Seddi Car Plant? - 17 Ionawr 2017 

Efallai bydd nifer o rieni wedi drysu gan y newyddion y gall rheoliadau i seddi clustogau newid cyn bo hir – ym mis Mawrth o bosibl. 

 

Bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Bro Morgannwg yn cyhoeddi asesiad lles drafft - 17 Ionawr 2017 

Yn dilyn ymgyrch ymgysylltu lwyddiannus a phroses casglu data sylweddol, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Bro Morgannwg wedi cyhoeddi Asesiad Lles drafft.

 

Lyfrgell y Barri'n dathlu ei dengmlwyddiant - 17 Ionawr 2017 

Ymunodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Neil Moore, â llu o bwysigion ac aelodau’r cyhoedd i ddathlu dengmlwyddiant Llyfrgell y Barri.

 

Arolwg iechyd yn dangos bod gwefrwyr e-sigarennau'n peri risg sylweddol i gwsmeriaid - 17 Ionawr 2017 

Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn rhoi cyngor i fusnesau i fod yn ofalus iawn wrth werthu gwefrwyr e-sigarennau i gwsmeriaid, ar ôl i dros hanner o'r cynnyrch a arolygwyd yn ddiweddar fethu profion diogelwch.

 

Gweithiwr Goralus Yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot Yn Rhoi Gwybod Am Ladrad - 16 Ionawr 2017

Mae un o weithwyr Cyngor Bro Morgannwg wedi’i ganmol ar ôl iddo roi gwybod i'r heddlu am ladrad yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot.

 

Y Cyngor yn cynnig cyrsiau a gweithdai chwaraeon - 16 Ionawr 2017 

MAE tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gweithio'n galed yn trefnu a hyrwyddo ystod o gyrsiau a gweithdai'n ymwneud â chwaraeon a ffitrwydd ledled y Fro.

 

Gwaith yn dechrau i ailddatblygu Cemetery Approach - 13 Ionawr 2017 

Mae gwaith wedi dechrau ar ardd gymunedol newydd ac ardal natur yn Cemetery Approach yn y Barri. 

 

Llyfrgell y Barri i estyn oriau agor drwy lansio system mynediad agored - 12 Ionawr 2017

Bydd Llyfrgell y Barri yn lansio system mynediad agored newydd gyffrous, gan alluogi aelodau i ddefnyddio'r cyfleusterau y tu allan i oriau staffio arferol.

 

Wedi joio'r nadolig? Nawr yw'r amser i gadw'n heini gyda chwrs Foodwise - 11 Ionawr 2017 

Bydd Cymunedau yn Gyntaf y Barri, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Bro Morgannwg, mewn partneriaeth  ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ail-lansio’r cwrs Foodwise llwyddiannus yn y Flwyddyn Newydd.

 

Gwobrwyo swyddogion croesi ysgol Cyngor Bro Morgannwg - 11 Ionawr 2017 

Mae'r arwyr di-glod sy’n helpu pobl ifanc y Fro i groesi’n ffyrdd yn ddiogel ddwywaith y dydd wedi cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu. 

 

Ffair Wirfoddoli - 11 Ionawr 2017

Mwynhewch antur newydd a dewch i’r Ffair Wirfoddoli Fawr.

 

Pen-blwydd Llyfrgell y Barri'n 10 oed - 09 Ionawr 2017

Dathlwch gyda’r llyfrgell yn Sgwâr y Brenin ar 13 a 14 Ionawr.

 

Oedi gyda gwaith arolygu platfform golygfa Penarth oherwydd fandaliaeth - 09 Ionawr 2017

Mae’r offer monitro a roddwyd mewn lle y mis diwethaf i helpu i nodi achos y craciau i blatfform golygfa Penarth wedi’i niweidio gan fandaliaid, gan oedi gwaith Cyngor Bro Morgannwg i ymdrin â’r broblem.  

 

Benthycwyr brwd yn dathlu degawd yn Llyfrgell y Barri - 06 Ionawr 2017

Ymunodd rhai o gwsmeriaid gorau’r Barri â staff am baned a chacen yr wythnos hon er mwyn dathlu dengmlwyddiant y llyfrgell.

 

Tîm chwaraeon a chwarae'r cyngor yn codi ymwybyddiaeth o glybiau chwaraeon amrywiol - 06 Ionawr 2017 

Mae dyfodiad blwyddyn NEWYDD yn aml yn annog nifer o drigolion y Fro i addunedu i wella eu ffitrwydd.

 

Pleidleisiwch dros wirfoddolwyr Cosmeston - 04 Ionawr 2017

Mae Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Cosmeston yn ceisio bachu grant drwy gynllun Bags of Help Tesco.

 

Blwyddyn newydd – grŵp rhedeg newydd i ferched - 04 Ionawr 2017 

Mae grŵp rhedeg NEWYDD SBON ar gyfer dechreuwyr yn cychwyn er mwyn annog mwy o ferched ym Mro Morgannwg i wneud ymarfer corff.

 

Tenis i ferched a golff cyn ysgol yn y flwyddyn newydd - 04 Ionawr 2017 

Bydd nifer o sesiynau chwaraeon newydd i bobl ifanc yn cychwyn ym mis Ionawr. Bydd y sesiynau gan Gyngor Bro Morgannwg mewn partneriaeth â sefydliadau gwirfoddol lleol ac yn rhan o gynllun yr awdurdod lleol i annog mwy o bobl ifanc nag erioed i gymryd rhan mewn chwaraeon yn 2017.