Cost of Living Support Icon

Blwyddyn newydd – grŵp rhedeg newydd i ferched

 


04 Ionawr 2017

 

Mae grŵp rhedeg NEWYDD SBON ar gyfer dechreuwyr yn cychwyn er mwyn annog mwy o ferched ym Mro Morgannwg i wneud ymarfer corff.


Yn unol â menter tîm Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg: ‘Ymarfer Corff i Ferched', bwriad y grŵp rhedeg newydd yw gwneud i fwy o ferched gymryd rhan mewn ymarfer corff ledled y Fro.


Mae’r grŵp rhedeg i ferched yn unig, dan arweiniad hyfforddwyr benywaidd, yn dechrau ar 16 Ionawr a bydd yn digwydd bob ddydd Llun a dydd Iau rhwng 4 a 5pm. 


Am y bythefnos gyntaf bydd cyfranogwyr yn cwrdd yng Nghanolfan Hamdden Penarth ar gyfer sesiwn redeg dan do er mwyn iddynt ddod i'r arfer â'r grŵp. Ar ôl hyn, bydd y grŵp yn parhau i gwrdd yng Nghanolfan Hamdden Penarth, ond yn rhedeg i ardaloedd eraill ym Mhenarth.


Mae’r grŵp rhedeg wedi’i sefydlu yn ymateb i ganlyniadau’r Arolwg Chwaraeon Ysgol, a awgrymodd fod ar ferched eisiau mwy o gyfleoedd i redeg ym Mhenarth.


Dywedodd y Cyng. Gwyn John, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Gweladwy a Hamdden y canlynol am y grŵp: “Mae’r grŵp yn cynnig ffordd ddiogel a chyfeillgar o ddechrau rhedeg, ac mae'n berffaith ar gyfer merched 14-18 oed sydd heb lawer o brofiad o redeg neu ddim o gwbl."


I gadw lle yn y grŵp, neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Sophie Wilkinson, aelod o dîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae, trwy slwilkinson@valeofglamorgan.gov.uk