Cost of Living Support Icon

Cwblhau gwasanaeth Casglu coed Nadolig y Fro

 

23 Ionawr 2017

 

Mae timau gwastraff ac ailgylchu Cyngor Bro Morgannwg wedi cael amser brysur yn casglu coed Nadolig trigolion yn ddiweddar, gyda thrigolion yn gallu eu cyflwyno wrth ymyl y ffordd gyda’u casgliadau gwastraff ac ailgylchu rheolaidd.

 

Nawr bod y coed wedi'u casglu, maen nhw wedi mynd i Safle Gwrtaith Y Bont-faen yn Llwynheli, lle y cânt eu troi’n gwrtaith – yn ogystal â gwastraff gardd a bwyd.

 

Cllr John visits Cowbridge CompostYmwelodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Rheoliadol, Hamdden a Gweladwy Cyngor Bro Morgannwg, y Cyng. gwyn John, â’r fferm i weld y gwaith a wnaed gan dîm Gwrtaith Y Bont-faen, sydd wedi bod yn compostio gwastraff organig ers dros 15 mlynedd.


Meddai’r Cyng. John:  “Ar ôl Nadolig prysur, rhaid i ni i gyd wneud y caledwaith o dynnu addurniadau i lawr ac yna ddod o hyd i ffordd o bacio’r holl bethau i ffwrdd. Mae gwasanaeth casglu coed Nadolig y Cyngor wedi rhoi ffordd ecogyfeillgar, gyfleus heb straen o ailgylchu coed i drigolion.


“Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o drigolion yn defnyddio’r gwasanaeth, a gwneud cyfraniad enfawr at ein hamgylchedd. Mae’r tîm yma'n gwneud job wych o ailgylchu'r gwastraff, ac mae wedi bod calonogol gweld cynnydd yn ymwybyddiaeth trigolion pan ddaw hi’n fater o ailgylchu a’r amgylchedd.”


Meddai Michelle Fitzpatrick, Swyddog Ailgylchu yng Nghyngor Bro Morgannwg: “Rydym yn falch iawn gyda’r ymateb gan drigolion y Fro, a hoffem ni annog mwy o bobl i wneud adduned Blwyddyn Newydd o fod yn wyrddach nag erioed."


Gall trigolion gasglu gwrtaith am ddim rhwng 10am a 2pm ar ddydd Sul olaf bob mis yn Nepo Court Road, Y Barri.

 

Am fwy o wybodaeth am ailgylchu a gwastraff ledled Bro Morgannwg.