Cost of Living Support Icon

GWEITHIWR GOFALUS YNG NGHANOLFAN CHWARAEON COLCOT YN RHOI GWYBOD AM LADRAD


16 Ionawr 2017

 

Mae un o weithwyr Cyngor Bro Morgannwg wedi’i ganmol ar ôl iddo roi gwybod i'r heddlu am ladrad yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot.

 

Clywodd Nathan Connell sŵn yn dod o’r tu ôl i ddrws ystafell newid a oedd wedi’i chloi ar ôl i dîm pêl-droed adael i chwarae ei gêm.

 

Colcot1Roedd hefyd yn amheus ynghylch car gyda’i injan yn rhedeg yn y maes parcio.

 

Ar ôl ceisio atal y dyn, a adawodd drwy ddrws tân yr ystafell newid, gwnaeth Nathan nodyn o rif cofrestru’r cerbyd.

 

Yn ddiweddarach sylwyd bod eitemau wedi’u dwyn wrth y tîm, ond roedd bag yn cynnwys mwy o eiddo wedi’i adael yn y ganolfan.

 

Mae’r heddlu’n gobeithio arestio’r lleidr sy’n golygu ei bod yn bosib bod Nathan wedi rhwystro trosedd ddifrifol.

 

Dywedodd yr arolygydd heddlu lleol Robert Miles: “Roedd hwn yn ymateb gwych gan aelod o staff a ymatebodd yn syth. Siaradodd â’r lleidr a gwneud nodyn i rif cofrestru’r cerbyd.

 

 “Rydyn ni’n parhau gyda’n ymchwiliadau, wedi dod o hyd i rywun rydyn ni'n ei ddrwgdybio, ac yn hyderus y gallwn ei arestio." 

 

Esboniodd Nathan beth ddigwyddodd a pham yr oedd yn amheus.

 

“Mae’n edrych fel bod y person oedd yn gyfrifol wedi mynd i mewn drwy'r drws tân a chwato yn y toiledau tan fod pawb wedi mynd i chwarae'r gêm," dywedodd Nathan.

 

“Fe es i mas ac roedd car yno gyda’i injan yn rhedeg. Roedd yn rhwystro’r ffordd hefyd. Dywedodd y fenyw yn y car ei bod hi’n aros am ei phartner a oedd wedi mynd i gwrdd â ffrind.

 

“Ro’n i'n gallu clywed synau'n dod o'r tu mewn i'r ystafell, a oedd wedi'i chloi.

 

“Yn y diwedd, gofynnes i i’r person beth oedd e’n ei wneud. Dywedodd ei fod wedi cael ei gloi i mewn ar ddamwain.

 

“Gallai hynny fod wedi bod yn wir, felly doedd dim llawer y gallwn i ei wneud. Daeth mas o’r ganolfan a gyrru bant.

 

“Yna fe welon ni fod drws yr ystafell newid wedi cael ei gorfodi ar agor.

 

“Fe wnes i nodyn o rif cofrestru’r car a’i roi i’r heddlu.

 

“Dywedodd un o’r bois a oedd yn chwarae ei fod yn ddiolchgar iawn gan eu bod wedi dod o hyd i fag yn cynnwys dillad a sgidiau'r chwaraewyr.Colcot2

 

“Roedd y bag wedi cael ei adael yn y ganolfan.  Os byddai'r holl bethau yna wedi cael eu cymryd byddai'r sefyllfa'n llawer gwaeth."

 

Dywedodd y Cyng. Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gweladwy, Hamdden a Rheoliadol: “Mae cyflymder meddwl Nathan wedi galluogi'r heddlu i fynd i'r afael â'r sefyllfa anffodus hon.  Fe rwystrodd y sefyllfa rhag bod yn llawer gwaeth.  Mae’n bwysig bod gweithgareddau cymunedol fel pêl-droed yn cael eu chwarae mewn amgylchedd diogel ac mae staff fel Nathan yn gwneud cyfraniad sylweddol at sicrhau mai dyma’r achos.”