Cost of Living Support Icon

Pleidleisiwch dros wirfoddolwyr Cosmeston

Mae Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Cosmeston yn ceisio bachu grant drwy gynllun Bags of Help Tesco.

 

Sefydlwyd y cynllun ariannu misol ar y cyd gan Tesco ac elusen Groundwork. Bob mis, mae prosiectau cymunedol awyr agored lleol yn derbyn grant o £5,000, £2,000 a £1,000, a roddir o’r dreth o 5c a godir am fagiau untro.

 

bags of help

 

Mae tri grŵp ym mhob un o ranbarthau Tesco wedi cyrraedd y rhestr fer i dderbyn y grant, ac estynnir gwahoddiad i siopwyr fynd i ganghennau Tesco’r mis hwn i bleidleisio dros bwy ddylai dderbyn y grant uchaf.

 

Lake at CosmestonEnwebwyd: Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Cosmeston

Mae gwaith Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Cosmeston yn cyd-fynd â’r gwaith parhaus o ddatblygu Parc Gwledig Llynnoedd Parc Cosmeston, a agorwyd i’r cyhoedd yn 1978 ac a ddynodwyd yn Warchodfa Natur Leol yn 2013.

 

Mae Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Cosmeston yn ymwneud â: rheoli cynefin, gwaith ar y coetiroedd, torri a rhacanu tir glaswelltog, ail-arwynebu llwybrau troed a gosod gatiau a chamfeydd. Mae ceisiadau i ymuno â’r gwirfoddolwyr wedi cynyddu’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

Mae’r gwirfoddolwyr yn dod o gefndiroedd amrywiol, ac mae ganddynt wahanol sgiliau a galluoedd. Gan fod nifer y gwirfoddolwyr yn cynyddu, mae angen offer ychwanegol i alluogi’r tîm i barhau â’u gwaith gwerthfawr am flynyddoedd i ddod. Yn ôl y gwirfoddolwyr, mae bod yn aelod o’r tîm wedi cynyddu eu lefel o weithgaredd corfforol, eu hysgogi i adael y tŷ a chwrdd â phobl eraill, ac wedi gwneud gwahaniaeth gweladwy i’w cymuned leol.

Sut i bleidleisio

Mae’r bleidlais ar agor mewn siopau rhwng 2 Ionawr a 28 Ionawr 2017. Mae gofyn i chi brynu un eitem o’r siop er mwyn pleidleisio, ond does dim isafswm gwariant. Byddwch yn derbyn un tocyn pleidlais am bob pryniant, ac nid oes angen prynu bag er mwyn derbyn tocyn. Gall cwsmeriaid fwrw eu pleidlais drwy ddefnyddio’r tocyn a roir iddynt wrth y til bob tro byddant yn siopa.

 

Gallwch bleidleisio dros Cosmeston ym mhob un o’r siopau isod: Yr Eglwys Newydd, Caerdydd / Yn y Parc, Caerdydd / Maes y Coed, Caerdydd / Extra Caerdydd / North Road, Caerdydd / City Road, Caerdydd / Salisbury Road, Caerdydd / Clifton Caerdydd / Pengam Extra, Caerdydd / Cathays Terrace, Caerdydd / Wellfield Caerdydd / Llaneirwg / Countisbury Caerdydd / Y Rhath, Caerdydd / St Marys Caerdydd / Capitol Metro Caerdydd / Bae Caerdydd / Tredegar Street Caerdydd / Corporation Road / Canton Metro Caerdydd / Croes Cwrlwys  / Dinas Powys / Express Penarth / Ely Express Caerdydd / Express y Rhws / Express y Bont-faen / Express Treganna / Y Barri / Holton Road Express y Barri / Express Barry Road / Penarth

 

Mae cynllun Bags of Help Tesco eisoes wedi cyfrannu dros £24 miliwn at fwy na 2,400 o brosiectau ledled y DU. Caiff cwsmeriaid Tesco gyfle i bleidleisio dros dri grŵp gwahanol bob mis. Ar ddiwedd pob mis, pan gaiff y pleidleisiau eu cyfrif, bydd tri grŵp ym mhob un o ranbarthau Tesco yn derbyn grant.


Am wybodaeth bellach am y cynllun Bags of Help, ewch i www.tesco.com/bagsofhelp