Cost of Living Support Icon

Diwrnod llawn hwyl blynyddol yn llwyddiant wrth i raglen Cyngor Bro Morgannwg gefnogi teuluoedd

 

2 Awst 2017 

 

Mae tad wedi datgelu sut y mae ei fywyd wedi newid er gwell o ganlyniad i raglen a ddarperir gan Gyngor Bro Morgannwg sy’n estyn allan i gefnogi teuluoedd sydd dan anfantais ar draws y Sir.   

 

Flying Start 10 year Celebration 2017

Cynhaliwyd diwrnod llawn hwyl yng Nghanolfan Hamdden Holm View ddydd Mercher diwethaf i nodi pen-blwydd Dechrau'n Deg yn 10 oed.

 

Mae Dechrau’n Deg Cymru yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n canolbwyntio ar weithio â theuluoedd â phlant dan 4 oed yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. 

 

 

Mae ‘Dad’s Base’ yn un o nifer o grwpiau a grëwyd gan Dechrau’n Deg gyda’r bwriad o estyn allan at dadau sy’n byw yn y Fro. 

 

 

Mae’r grŵp yn cwrdd yng Nghanolfan Hamdden Holm View unwaith yr wythnos ac yn cynnig y cyfle i dadau gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau, a mynychu cyrsiau hyfforddiant a fydd yn eu helpu i ddatblygu ac ennill sgiliau newydd. 



Dywedodd Damion Knott, a fu’n gweithio fel gweithiwr cymorth i rieni gyda Dechrau’n Deg am fwy na thair blynedd:
“Yn wreiddiol, roeddwn i’n aelod o ‘Dad’s Base' am ddwy flynedd cyn cychwyn gweithio i Dechrau'n Deg. Cyn i mi glywed am Dechrau'n Deg ac am grwpiau cymorth eraill, nid oeddwn i’n gwybod bod cymorth ar gael i rieni. Cyrhaeddodd y pwynt lle nad oeddwn yn gwybod beth i’w wneud o ran addysgu fy mhlant am ymddygiad.  
“Mae wedi gwneud fy mywyd i a bywydau fy mhlant gymaint yn well; bellach rwy'n rhiant gwell o ganlyniad i’w cymorth nhw. Ni fyddaf lle'r wyf yn awr, heb eu help nhw."

 

Men Behaving Dadly - Members of Dads BaseDenodd y diwrnod llawn hwyl 180 o deuluoedd ar draws y Fro, y cefnogwyd pob un ohonynt gan Dechrau’n Deg dros y blynyddoedd.

 

 

 

Rhoddwyd gwobrau raffl gan fusnesau lleol ac roedd y diwrnod yn llwyddiant, er gwaethaf y ffaith y newidiwyd y lleoliad ar y funud olaf. 



Yn ddiweddar, cyhoeddodd y rhaglen ei bod wedi cefnogi a chydweithio â mwy na 37,000 o blant a’u teuluoedd ar draws Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf - cynnydd o bedwar y cant o’r targed ar gyfer y flwyddyn.  

 


Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden, y Cynghorydd Gordon Kemp:  

 

"Mae llwyddiant y diwrnod llawn hwyl i nodi pen-blwydd Dechrau'n Deg yn 10 oed, gyda 180 o deuluoedd yn bresennol, yn dangos cymaint y gwerthfawrogir gwaith caled y tîm ar draws y Fro.  

 

"Fel Cyngor, rydym ni’n falch o allu darparu’r gwasanaeth hwn ac mae’n glir pa mor fuddiol ydyw ar gyfer trigolion. Rydym ni’n gobeithio y gall Dechrau’n Deg barhau i fod mor effeithiol wrth helpu teuluoedd yn ein cymuned yn y dyfodol."

 


I gael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu â Dechrau’n Deg Cymru, anfonwch e-bost i flying.start@wales.gsi.gov.uk