Cost of Living Support Icon

Y cyngor yn helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar drwyn Y Rhws

 

21 Gorffennaf 2017

 

Roedd cynghorwyr lleol a thimau diogelwch cymunedol a hamdden Cyngor Bro Morgannwg yn y Rhws yr wythnos ddiwethaf, ynghyd â swyddogion achub bywydau a'r heddlu, fel rhan o ymdrech i weithio â phreswylwyr lleol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.  

 

Codwyd pVale councillors near Rhoose point quarryryderon gan breswylwyr Trwyn y Rhws yn ddiweddar ar ôl i grwpiau o bobl ifanc gasglu wrth y lagwnau ac achosi aflonyddwch.

 

 

Mae neidio a nofio yn y lagwnau yn beryglus iawn ac wedi’i wahardd trwy is-ddeddf am y rheswm hwn yn benodol.

 

 

Mynychodd tua 50 o breswylwyr lleol y digwyddiad ymgysylltu â’r gymuned yn Nhrwyn y Rhws ddydd Llun 10 Gorffennaf, lle cawsant gyfle i drafod unrhyw faterion neu bryderon a all fod ganddynt â’r awdurdodau.

 

 

Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Gwasanaethau Tai Cyngor Bro Morgannwg: “Roeddem eisiau dangos i breswylwyr lleol bod y Cyngor yn gweithio gyda Heddlu De Cymru a sefydliadau eraill i fynd i’r afael â’r mater hwn.

 

"Rhoddodd y digwyddiad yr wythnos ddiwethaf y cyfle i breswylwyr rannu eu pryderon ac i ni gasglu mwy o wybodaeth a fydd yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r math hwn o ymddygiad gydol yr haf. Mae is-ddeddfau wedi’u creu a ffensys ychwanegol wedi'u gosod ar ben y clogwyni i sicrhau bod mynediad i'r mannau uchaf yn fwy anodd ond ni fydd hyn yn datrys y broblem yn gyfan gwbl.

 

"Mae’n bwysig ymgysylltu â'r bobl ifanc dan sylw i ddangos effaith eu gweithredoedd, yn hytrach na cheisio’u gwahardd, a bydd y wybodaeth a geir gan breswylwyr yn ein cynorthwyo i wneud hyn.

 

Am nawr, rydym wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi i breswylwyr lleol sy’n gweld unrhyw ymddygiad o’r fath roi gwybod am y mater i’r heddlu ar unwaith. Police officers and members of the community safety team at Rhoose

 

"Bydd ein tîm diogelwch cymunedol hefyd yn trefnu digwyddiadau tebyg mewn rhannau eraill o’r Fro, megis Llanilltud Fawr a Phenarth Uchaf, yn ddiweddarach yr haf hwn i rannu’r neges ynghylch ymdrochi a diogelwch cyhoeddus.

 

"Yn y digwyddiad hwn rhoddodd ein tîm Diogelwch Cymunedol wybodaeth ar asesiadau cyflymderau traffig diweddar ar Drwyn y Rhws gan roi cyngor ar sefydlu cynllun Gwylio’r Gymdogaeth.”