Disgyblion ysgolion cynradd y Fro yn cwblhau hyfforddiant llysgennad efydd gyda help gan seren hoci
3 Awst 2017
Team members who took part in the training
Cwblhaodd 28 disgybl ysgol gynradd yr hyfforddiant Llysgennad Efydd yn rhan o raglen chwaraeon Cyngor Bro Morgannwg.
Cymerodd disgyblion blwyddyn pump o bump ysgol yn y Barri, pump ysgol ym Mhenarth a phedair ysgol yn y Fro wledig i gyd ran yn y diwrnod hyfforddiant yng nghanolfan Hamdden Holm View ddydd Mawrth 27 Mehefin.
Enwebwyd dau blentyn o bob ysgol yn fodelau rôl gan eu cyfoedion, a byddant yn symud ymlaen i drefnu gemau a gweithgareddau yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol.
Bwriad yr ymgyrch llysgennad ifanc yw rhoi pŵer i bobl ifanc a’u hysbrydoli i ddod yn fodelau rôl ac arweinwyr trwy chwaraeon.
Team talk before the training session
Cymerodd y plant ran mewn gemau a gweithgareddau a ddysgodd iddynt sut i arwain sesiynau bach ac ystyried ffyrdd o gynnwys pawb.
Yn rhan o fenter a lansiwyd gan Chwaraeon Cymru, gwnaeth y chwaraewr hoci Beth Fisher gwrdd â’r plant ar ôl eu sesiwn i’w haddysgu am yr hyn sy’n gwneud arweinydd da.
Dywedodd: “Mae'r plant sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun Llysgennad Ifanc Efydd wedi dangos sgiliau arwain gwych ac awydd i ysbrydoli eraill. Mae’n wych gwybod bod chwaraeon mewn ysgol gynradd mewn dwylo diogel y 28 o blant hyn."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden, y Cynghorydd Gordon Kemp:
“Mae’r fenter hon yn ffordd wych o gael plant i gymryd rhan mewn chwaraeon ledled y Fro, ac mae dysgu am sgiliau arwain gan un o brif chwaraewr hoci o Gymru yn gyfle gwych.
“Da iawn i’r holl ddisgyblion a gwblhaodd yr hyfforddiant Llysgennad Efydd. Rwy'n gobeithio y byddan nhw’n gallu defnyddio eu sgiliau newydd yn y tymor ysgol newydd y mis Medi hwn."