Cost of Living Support Icon

Gardd Gyfeillgarwch yng Ngerddi’r Parêd

 

Dydd Llun 17 Gorffennaf 2017

 

Gardd newydd i ddathlu cysylltiadau â threfi gefell: Fecamp yn Ffrainc, Mouscron yng Ngwlad Belg a Rhinefelden yn yr Almaen.

 

Garden of Friendship - Parade Gardens wildflowers 022017

 

Mae’r ardd yn cynnwys pedair ardal flodau gwylltion gyda chymysgedd o hadau gwahanol ym mhob un, un ai o’r trefi eu hunain neu flodau sy’n gysylltiedig â’r gwledydd. Mae byrddau dehongli dwyieithog yn disgrifio ethos gefeillio trefi ger pob gwely blodau yn ogystal â disgrifiad bychan o bob tref gefell.

 

Mae pedwar polyn baner yn chwifio baneri’r trefi gefell ac mae un yn chwifio baner Cyngor Bro Morgannwg.

 

 Wildflower Garden of Friendship Rheinfelden 012017

 

Wildflower Garden of Friendship Fecamp 012017

 Wildflower Garden of Friendship VoG 012017

 

Wildflower Garden of Friendship Mouscron 012017

 

Bu i ddirprwyon o'r grwpiau gefeillio trefi ymweld â’r ardd yn ddiweddar yn ystod Gŵyl Beats, Eats and Treats yn Ynys y Barri. Cawson nhw groeso gan Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cyng. John Thomas a’r Cyng. Hunter Jarvie yn yr ardd.

 

Buon nhw hefyd yn trafod â’r Tîm Parciau a Gerddi a ddyluniodd a chreu’r gerddi hyfryd hyn.