Cost of Living Support Icon

Ugain mlwyddiant Harry Potter

 

05 Gorffennaf 2017

 

All trainee wizards and witches passed with flying colours

Cynhaliwyd digwyddiad swynol yn Llyfrgell y Barri i nodi ugain mlynedd ers Harry Potter and The Philosopher’s Stone.

 

Mae J K Rowling, un o hoff awduresau Prydain, wedi gwerthu dros 450 miliwn o lyfrau ar draws y byd, ac mae ei ffans wedi bod yn dilyn hynt a helynt y dewin ifanc ers 1997. 

 

Ar ddydd Llun 26 Mehefin, croesawyd plant i’r llyfrgell gan yr Arch Ddewiniaid Gillian a Danielle, cyn eu trefnu’n bedwar tŷ, Gryffindor, Hufflepuff, Ravenclaw a Slytherin drwy eu het ddidoli eu hunain.

 

 Cystadlodd y tai yn erbyn ei gilydd mewn cyfres o dasgau hudol, a oedd yn cynnwys creu ffon hud, moddion pwerus o gynhwysion fel Cwcwll-y-Mynach Melyn, gwaed Salamandr a hylif ffrwydrol.

 

Yn ffodus, llwyddodd pob un o’r dewiniaid a gwrachod dan hyfforddiant yn eu dosbarth a chawsant dystysgrifau i nodi eu cyflawniadau.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau yn Llyfrgell y Barri ewch i bromorgannwg.gov.uk/llyfrgelloedd.