Cost of Living Support Icon

Boreau Coffi Elusennol y Maer

 

11 Gorffennaf 2017

 

Victoria spongeHoffa Maer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Janice Charles, gyhoeddi ei bod am gynnal boreau coffi elusennol rheolaidd.

 

 

Baby Basics yw Elusen Gyntaf y Maer i gynnal Bore Coffi, a hynny yn yr Oriel Gelf Ganolog, Neuadd y Dref, Y Barri ddydd Iau 17 Awst rhwng 10am a hanner dydd.

 

 

 

Mae Baby Basics, sy’n cael ei rhedeg gan Eglwys Deuluol Coastlands, Y Barri, yn gweithio gyda bydwragedd, ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol a chyrff proffesiynol eraill i gynnig pecynnau cychwynnol i’r rheiny sydd eu hangen… Caiff y basgedi Moses eu llenwi â nwyddau ymolchi, cewynnau, tyweli a dillad babis – dyma'r unig eitemau fydd gan rai pobl i'w plentyn.

 

Hyd yn hyn, mae 29 o fasgedi wedi’u creu a’u dosbarthu eleni.

 

 

Roedd y Maer yn falch iawn o groesawu cydlynydd Baby Basics, Pauline Byrne a chyd-wirfoddolwyr eraill Coastlands a staff Dechrau’n Deg Cyngor Bro Morgannwg i Barlwr y Maer, ac mae'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw drwy gydol ei blwyddyn fel Maer.

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am Baby Basics, e-bostiwch Pauline Byrne ar valebabybasics@yahoo.com