Cost of Living Support Icon

Saethau Coch ar wib uwchben Ynys y Barri y penwythnos yma

 

04 Awst 2017

 

Bydd y Saethau Coch yn ôl i wneud eu harddangosfa uwchben Ynys y Barri ddydd Sul, yn rhan o ddigwyddiad sy’n cael cymorth gan Gyngor Bro Morgannwg. 

 

Mae’r grŵp, sy’n cael eu hystyried yn un o dimau hedfan gorau’r byd, yn disgwyl dechrau ei berfformiad am hanner dydd. 

 

Dywedodd John Buxton, Rheolwr Gyfarwyddwr Rheilffordd Twristiaid y Barri: 

“Mae’r digwyddiad yn cael nawdd gan ein chwaer gwmni, Cambrian Transport Ltd.  Yn ogystal, mae’n wych ein bod hefyd wedi sicrhau nawdd gan gwmnïau eraill a Masnachwyr Ynys y Barri eleni.  

 

“Mae’r arddangosfa yn fuddsoddiad ariannol sylweddol a thrwy rannu’r costau, y gobaith yw y bydd cymorth yn parhau ac y bydd modd i ni gynnal yr arddangosfa hedfan anhygoel yma’n flynyddol.”

 

Dywedodd Gordon Kemp, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden: 

“Mae’n bleser gan Gyngor Bro Morgannwg helpu i ddenu'r Saethau Coch yn ôl i Ynys y Barri eto eleni.

 

“Mae hyn yn dilyn gŵyl Ynys Tân y Barri rai wythnosau yn ôl, ac mae’n un o blith llawer o ddigwyddiadau ledled y Sir yr haf yma."

 

Bydd Rheilffordd Twristiaid y Barri hefyd yn cynnal bws gwennol o’r maes parcio a theithio bob 20 munud o Hool Road a Gorsaf y Glannau i Orsaf Ynys y Barri rhwng 9.15am a 3.30pm.  

 

£5 fydd y gost i ddefnyddio’r gwasanaeth parcio a theithio fesul car (hyd at 5 o bobl) neu £10 fesul cerbyd cludo criw ar gyfer rhwng 6 a 10 o bobl. 

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.barrytouristrailway.co.uk neu cysylltwch â John Buxton yn Rheilffordd Twristiaid y Barri drwy ffonio 01446 748816 neu drwy e-bostio john.buxton@cambriantransport.com