Siop ym Mhenarth yn derbyn dirwy ar ôl i swyddogion safonau masnach atafaelu gwerth £3,500 o dân gwyllt
Mae Swyddogion Safonau Masnach yn gweithio i Gyngor Bro Morgannwg wedi llwyddo i erlyn busnes ym Mhenarth ar ôl dod o hyd i werth £3,500 o dân gwyllt mewn cynhwysyddion anaddas yn y siop.
27 Gorfennaf 2017
Cynhaliwyd archwiliad o’r siop A-Z Dragon Discount ar Windsor Road ddydd Mawrth 25 Hydref y llynedd, ac roedd yn rhaid i’r swyddogion ofyn i'r fyddin am gymorth o ganlyniad i nifer y tân gwyllt a ddarganfuwyd.
Clywodd Llys Ynadon Caerdydd ar ddydd Iau 6 Gorffennaf sut roedd swyddogion o’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, sef y corff sy'n gyfrifol dros gynnal safonau masnach ledled Cynghorau Bro Morgannwg, Caerdydd a Phen-y-bont, wedi dod o hyd i dros 60kg o dân gwyllt ffrwydrol wedi’u storio mewn storfa gefn mewn modd anniogel.
Daethpwyd o hyd iddynt yn wlyb a chyda deunyddiau fflamadwy.
Yn Llys Ynadon Caerdydd, plediodd Sangat Sing a Trishna Kaur Singh yn euog i droseddau dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.
Nododd y Llys y byddai Sangat Sing yn derbyn dirwy o £1,920 a Trishna Singh yn derbyn dirwy o £1,080. Enillodd y Cyngor £2,000 mewn costau.
Nododd yr Ynadon y byddai’r tân gwyllt, gwerth £3500, yn cael eu hatafael a'u dinistrio.
Roedd yr Ynadon hefyd o’r farn bod hyn yn drosedd difrifol dros ben ac er na fu i unrhyw un farw, roedd risg uchel y byddai rhywun wedi gallu marw o ganlyniad i'r ffordd yr oedd y tân gwyllt yn cael eu storio yn yr eiddo.
Dywedodd y Cyng. Hunter Jarvie, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:
“Mae tân gwyllt yn beryglus ofnadwy, ac mae angen eu storio'n ddiogel. Mae swyddogion yn monitro eiddo sydd â thrwyddedau ffrwydrol a byddant yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod y staff a’r cyhoedd yn ddiogel.
“Roedd hon yn sefyllfa beryglus tu hwnt gyda llety preswyl uwchben yr adeilad.”