Cost of Living Support Icon

Llwyddiant wrth i fwy na 700 o ddisgyblion y Fro gwblhau hyfforddiant ar gynhwysiant anabledd

Mae plant ysgolion cynradd ledled y Fro wedi dysgu sut i gynnwys pawb mewn gweithgareddau dyddiol wedi’u trefnu gan Chwaraeon Anabledd Cymru.

 

26 Gorffennaf 2017

 

Mae mwy na 700 o ddisgyblion bellach wedi cwblhau’r Hyfforddiant ar Gynhwysiant Anabledd, ac mae trefnwyr yn gobeithio cynyddu hyn i 1,000 o ddisgyblion erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. 

 

Bwriad y cwrs yw dysgu mwy am yr hyn y gall plant, pobl ifanc ac oedolion anabl ei wneud yn ogystal â sut y gall plant gynnwys eu ffrindiau mewn gweithgareddau addysg gorfforol a gweithgareddau corfforol yn gyffredinol.

 

 

Lansiwyd y project ym mis Ionawr a chymerodd disgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig St Helen, Ysgol Gynradd Gwenfo, Ysgol Gynradd Parc Jenner, Ysgol Gynradd Oakfield, Ysgol Gynradd Palmerston a Sain Tathan i gyd ran.

 

Simon Jones with Gwenfo primary school pupils
Jenner Park primary school pupils

 

Mae'r llwyddiant hwn wedi'i weld ym mhob rhan o'r Fro ac mae grwpiau sgowtiaid lleol hefyd wedi dangos diddordeb mewn cymryd rhan.

 

Aelodau o 11eg Sgowtiaid Môr y Barri oedd y grŵp cyntaf i gwblhau’r hyfforddiant y tu allan i amgylchedd yr ysgol.   Cwblhaodd ail a phedwerydd grŵp y Barry Beavers a grŵp cyntaf y Penmark Cubs y cwrs gan ennill eu bathodynnau ymwybyddiaeth o anabledd.   

 

Bydd grŵp cyntaf y Penmark Cubs  yn gwneud defnydd da o’r hyfforddiant gyda Sesiwn Saethu Cynhwysol yn hwyrach eleni. 

 

“Siaredais â Chwaraeon Anabledd Cymru am siarad â disgyblion ysgol am hyfforddiant cynhwysiant anabledd a threialwyd y syniad yng Nghaerdydd. Neges y cwrs yw dangos ei bod yn iawn gofyn i rywun gwestiynau am y ffordd orau i’w gynnwys os nad ydych yn siŵr.  

 

“Mae’r adborth rydym wedi’i gael wedi bod yn ardderchog, ac mae wedi bod yn wych gweld cymaint o ysgolion rhagweithiol ym Mro Morgannwg sydd am sicrhau bod gan bawb y cyfle i gymryd rhan mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol. 

 

“Targed cychwynnol y flwyddyn oedd rhoi hyfforddiant i 400 o ddisgyblion; rydym wedi bwrw’r targed hwn yn llwyr o ganlyniad i barodrwydd ysgolion a Grwpiau Sgowtiaid lleol.” - Dywedodd Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Cyngor Bro Morgannwg, Simon Jones

 

Bydd Aelodau o Dîm Chwaraeon a Datblygu Chwaraeon Bro Morgannwg, Tom Howles a Lucy Mitchell, yn mynd i ysgolion cynradd yn y Flwyddyn Newydd i barhau i rannu syniadau ar sut y gall disgyblion gynnwys pawb mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol. 

 

Mae cynlluniau ar waith i gynnal digwyddiadau cyhoeddus ym Mro Morgannwg yn ystod y tymor ysgol nesaf.

 

I ddysgu mwy am yr hyfforddiant, e-bostiwch Simon Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru: