Cost of Living Support Icon

Cyngor Bro Morgannwg yn rhagori unwaith eto yn y Gwobrau Baner Werdd

Mae Cyngor Bro Morgannwg unwaith eto wedi rhagori yn y gwobrau Baner Werdd, gan ddod i’r amlwg fel un o’r siroedd sy’n perfformio orau yng Nghymru.

 

18 Gorffennaf 2017


Mae’r corff dyfarnu Cadwch Gymru’n Daclus wedi rhoi statws Baner Werdd i saith o safleoedd y mae’r awdurdod lleol yn eu cynnal, sef arwydd o ofod awyr agored o safon. 

 

Green flag awards 2017

Derbyniodd Parc Romilly, Y Parc Canolog, Parc Victoria, Gerddi’r Knap, Promenâd a Gerddi Ynys y Barri, Parc Belle Vue a Gerddi Alexandra/Windsor oll yr anrhydedd, ynghyd â’r Comin ym Mhenarth a Mynwent Merthyr Dyfan yn y Barri, tra derbyniodd naw o safleoedd cymunedol Faner Werdd yn ogystal.

 

Mae’r rhain yn cynnwys Gardd Gymunedol y Barri, Coetir Birchgrove, Gardd Berlysiau’r Bont-faen, Gwarchodfa natur Cwm Talwg, y Berllan Elisabethaidd, Gerddi’r Hen Neuadd, Cae’r Berllan Uchaf, y Wenfô, Perllan Gymunedol y Wenfô a’r Berllan Gymreig yn y Wenfô.

 

“Rydyn ni’n falch o weld bod nifer y mannau gwyrddion buddugol ym Mro Morgannwg wedi parhau i gynyddu. Mae’r holl faneri sy’n chwifio eleni yn dyst i ymdrechion y staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal y safonau y mae Gwobr Baner Werdd yn eu mynnu. Diolch iddyn nhw fod gan breswylwyr ac ymwelwyr â’r Fro fynediad at gymaint o adnoddau rhagorol."

 - Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd a Chadw Cymru’n Daclus

7 Things we love about Vale parks Welsh

 

 

Dim ond Caerdydd sy’n ennill y blaen o safbwynt nifer y safleoedd Baner Werdd ac mae awdurdod dinesig Abertawe yn drydydd, bu’r Fro, sy’n llai o lawer, yn dra llwyddiannus i gyrraedd yr 2il safle o blith siroedd Cymru.

“Rwy’n hynod falch bod y Fro unwaith eto wedi rhagori i sicrhau cynifer o barciau Baner Werdd. O ystyried yr adnoddau sydd gennym o’n cymharu ag awdurdodau eraill, mae hon yn dipyn o gamp ac yn tystio i waith caled staff ein parciau. Eu hymrwymiad nhw sydd yn cadw ein mannau gwyrddion yn edrych yn wych drwy gydol y flwyddyn.

 

Llongyfarchiadau hefyd i grwpiau gwirfoddol a chymunedol sydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith caled parhaus.

 

Mae’r safon y mae’n rhaid ei chyrraedd er mwyn ennill statws Baner Werdd yn hynod uchel a rhoddir llawer o ymdrech y tu ôl i’r llenni er mwyn sicrhau bod gan breswylwyr gymaint o fannau ardderchog i’w mwynhau.”

 

 - Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg


Cynhelir y broses ddyfarnu ym mis Ebrill a mis Mai bob blwyddyn, gan gyhoeddi'r safleoedd buddugol ym mis Gorffennaf. Rhaid i barciau wneud cais bob blwyddyn i gadw eu Baner Werdd, a gall y safleoedd llwyddiannus chwifio Baner Werdd yn y parc am flwyddyn.


Caiff parciau eu beirniadu ar wyth maen prawf, sef glendid, diogelwch, safon y gwaith cynnal a chadw, cynnwys y gymuned, cynaliadwyedd, gwaith rheoli, cadwraeth a threftadaeth.


“Rydyn ni oll yn falch dros ben bod cymaint o barciau Baner Werdd gennym.  Ro’n i’n arfer chwarae ym Mharc Romilly pan oeddwn i'n blentyn, felly mae cael bod yn rhan o’r newid er gwell yno yn rhoi boddhad mawr. Mae pawb sy’n dod drwyddo yn dweud ei fod yn barc hyfryd.

 

Mae’n gallu bod yn waith caled iawn, ond rydych chi’n bwrw iddi a’i wneud er mwyn pobl y Barri a’r Fro. Rydyn ni i gyd yn ymfalchïo’n bersonol yn y parciau. Pan fyddwn yn sylwi bod rhywbeth angen ei wella, rydyn ni am weld y gwaith yna’n cael ei wneud.

 

Rydyn ni am ddal ati lle mae’r faner Werdd dan sylw. Byddai’n dda gennym gael mwy yn y dyfodol felly cawn ni weld beth ddigwyddiff.”

 - Dywedodd Prif Arddwr y Fro, Neil Gibbon