Cost of Living Support Icon

Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi arlunwyr lleol


02 Awst 2017

 

Mae’r arlunydd o OGWR, Ingrid Walker, wedi ei chydnabod â chomisiwn i greu gwobrau ar gyfer digwyddiad mawr ei fri yn rhan o gymorth parhaus Cyngor Bro Morgannwg i’r sîn celfyddydau leol.  

Cafodd Ingrid ei dewis o blith nifer o arlunwyr i ddylunio'r tlysau ar gyfer y Cinio Gwobrau Celfyddydau a Busnes, noson i ddathlu’r partneriaethau creadigol gorau rhwng byd busnes a’r celfyddydau.

 
Gan beidio ag efelychu gwobrau mwy confensiynol, roedd gwydr lliw, wedi'i osod o fewn broc môr o draethau lleol, yn nodweddu tlysau Ingrid. 

 

 Image02SMae hi’n rhan o grŵp sy’n cynnal Crafts by the Sea, siop yn Ogwr a gafodd ei hagor dair blynedd yn ôl sy'n gwerthu gwaith gan amryw arlunwyr lleol ac a fydd yn lansio ei gwefan newydd cyn bo hir, www.craftsbythesea.co.uk


Mae Coastal Community Arts yn grŵp o bedwar sy’n cynnal y siop (https://www.facebook.com/coastalcommunityarts), a bydd yn cynnal gŵyl ar 9 Medi yn y ganolfan Arfordir Treftadaeth ym Mae Dwnrhefn, Southerndown, i gyflwyno amryw gelfyddydau a chrefftau, â chymorth ariannol gan y Cyngor.  

 

Yn ogystal â hynny, cafodd Ingrid ac arlunydd arall, Clare Revera, gymorth gan y Cyngor i gymryd rhan mewn cynllun i ddatblygu gweithgareddau arfordirol. 

 

Cafodd Clare grant i ddatblygu ei menter ei hun, ‘Out to Learn Willow’, cynllun i gynnal cyrsiau a gweithdai i bobl ar lunio celf â'r pren. 

 

Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu sefydlu rhwydwaith crefft yn y Fro, gan gynnig y cyfle i arlunwyr ddod o hyd i weithleoedd, cyfleoedd i arddangos a gwerthu eu gwaith, cymorth marchnata a chymorth busnes. 

 

Mae Oriel Gelf Ganolog, yr oriel y mae’r Cyngor yn ei chynnal, hefyd yn rhoi cyfle i arlunwyr lleol arddangos eu gwaith. 

 

“Bob blwyddyn mae Celfyddydau a Busnes Cymru yn comisiynu arlunydd i ddylunio tlysau eu noswaith gwobrau oherwydd eu bod yn hoffi iddyn nhw fod yn unigryw. ‘Dw i’n gweithio gyda gwydr lliw ac 'dw i’n hoffi casglu broc môr achos bod y darnau'n siapau diddorol ac mae pobl wrth eu boddau gydag ef," dywedodd Ingrid. 

 

“Roedden nhw eisiau 11 o dlysau, 10 o'r un fath ac un gwahanol. Ond awgrymais i wneud 11 o olygfeydd gwahanol o ledled Cymru.


“Bu o fudd mawr cael arian gan y Cyngor at ein gŵyl cyn bo hir - bydd yn ein helpu i gynhyrchu deunyddiau marchnata ac ati. Rydyn ni’n denu llawer o bobl ‘crefftau’ amrywiol. Dylai fod gennym ni 30 o stondinau eleni. 


“Cyn yr ŵyl ac yn yr wythnos sy’n dilyn, byddwn ni'n cynnal sesiynau sgiliau gyda chrefftwyr gwahanol yn y Ganolfan Arfordir Treftadaeth.

 

Rydyn ni hefyd wedi cael cynnig i gyflwyno ein gwaith yn Oriel Gelf Ganolog y Cyngor felly rydyn ni’n mynd i fwrw golwg ar y lle a'i drefnu at y dyfodol. 

 

Image01

“Mae Cymunedau Gwledig Creadigol, menter

adfywio gwledig y Cyngor, wedi gofyn i ni gysylltu â chrefftwyr eraill i greu fforwm gwell i’r Fro. Rydyn ni'n ymchwilio i'r posibilrwydd hwnnw ar hyn y bryd.” Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddysgu a Diwylliant: “Hoffwn i longyfarch Ingrid ar ei chomisiwn diweddar. Mae ei llwyddiant yn enghraifft o’n sîn greadigol ffyniannus yn y Fro. 


 “Rydyn ni, y Cyngor, yn awyddus i roi cymorth i fentrau ym maes y celfyddydau oherwydd rydyn ni'n gwerthfawrogi eu rôl hollbwysig yn y gymuned. Mae modd i brosiectau arloesol fel Crafts by the Sea a'r Ŵyl Grefftau cyn bo hir sbarduno buddion cymdeithasol ac economaidd i'r Fro."