Cost of Living Support Icon

Cyngor Bro Morgannwg yn lansio gwefan cymorth busnes ar ei newydd wedd yn cynnig cymorth i fusnesau a grwpiau cymunedol

 

27 Gorffennaf 2017

 

Mae tîm datblygu economaidd newydd Cyngor Bro Morgannwg wedi ail-ddylunio gwefan cymorth busnes sy’n cynnig ffordd hawdd i fusnesau a grwpiau cymunedol o ddod o hyd i wybodaeth.

 

Gall ymwelwyr weld adrannau ar destunau megis buddsoddi, cyllid a chyngor.

 

Y nod yw gwella gallu grwpiau yn yr ardal a'u hannog i ddod yn fwy cynaliadwy.  

 

Mae’r wefan hefyd yn darparu dolenni at adnoddau a sefydliadau cymorth busnes, ac mae’n tynnu sylw at y cyfleoedd cyllid a buddsoddi diweddaraf.

 

Bydd y wefan hefyd yn lle i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Ardal Fenter y Fro a rôl yr awdurdod lleol ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

“Rydym ni’n gobeithio y bydd busnesau ac aelodau o'r gymuned yn ystyried y wefan yn adnodd defnyddiol ac yn lle canolog i gael gwybodaeth." - Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio

 

Mae’r wefan ar ei newydd wedd yn rhan o strategaeth allgymorth, ac fe'i bwriedir ar gyfer cryfhau cysylltiadau rhwng y Cyngor a busnesau yn yr ardal.

 

 

Business Advice graph banner

Cymorth Busnes

Gwybodaeth, cyngor a chanllawiau ar gyfer eich busnes neu sefydliad, a’r holl gyfleoedd cyllid a phartneriaeth diweddaraf ym Mro Morgannwg a thu hwnt. 

 

Cymorth Busnes