Cost of Living Support Icon

Rheolwr Cynorthwyol Cymru, Kit Symons, Yn Croesawu'r Caeau Newydd Yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot

 

26 Gorffennaf 2017

 

colcotimage3 (2)

 

Mae Rheolwr Cynorthwyol Cymru, Kit Symons, wedi croesawu'r chwe chae pêl-droed newydd gyda llifoleuadau yn yr awyr agored yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot yn dilyn buddsoddiad gwerth mwy na £500,000 gan Gyngor Bro Morgannwg.


Mae pedwar cae pum bob ochr newydd a dau gae saith bob ochr mwy o faint wedi’u hagor yn y cyfleuster, bob un ohonynt yn cynnwys arwyneb 3G synthetig cryf sy’n cynnwys llafnau o laswellt a ategir gan haen sylfaenol denau wedi’i mewnlenwi â briwsion rwber.  


Bydd y caeau ar gael i’r cyhoedd eu llogi, bydd modd i ysgolion a chlybiau chwaraeon eu defnyddio, ac mae hefyd cynlluniau i gynnal cynghreiriau pêl-droed gyda’r nos. 

 

Colcotimage1

Byddant yn ategu’r cyfleusterau sydd eisoes ar gael yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot, gan gynnwys cae pêl-droed maint llawn y gellir ei ddefnyddio ym mhob tywydd, wal ddringo, neuadd chwaraeon a chwrt badminton.


Cwmni lleol o Dde Cymru, sef Sports Grounds, oedd yn gyfrifol am y prosiect a gostiodd gyfanswm o £566,000. Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Mawrth.


Adeiladwyd y caeau hyn llai na dwy flynedd ar ôl i’r Cyngor wario swm tebyg i adnewyddu Parc Jenner, gan gynnwys gosod arwyneb 3G newydd yno.


Mae gwaith o’r fath yn rhoi cyfle i’r gymuned gymryd rhan mewn gweithgarwch ymarfer corff drwy gydol y flwyddyn, sy’n eu helpu nhw i aros yn egnïol ac yn cael goblygiadau arwyddocaol ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant.


Bydd rhagor o waith i wella cyfleusterau chwaraeon yn y Fro yn cynnwys ailwampio Canolfannau Hamdden y Barri a Phenarth yn y dyfodol agos. 


Dywedodd Kit Symons: “Mae’n gyfleuster gwych.  Gallwch weld yr holl blant yn rhedeg o gwmpas yn cael hwyl ac mae cyfleusterau fel hyn yn hanfodol ar gyfer datblygu chwaraewyr ifanc ym Mro Morgannwg ac yng Nghymru. 
“Nid yw’r caeau hyn yn rhad.  Mae hyn yn fuddsoddiad mawr, ond rwy’n credu ei fod yn un gwerth chweil ar gyfer cymunedau lleol a Chymru gyfan gan ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n ysgogi bechgyn a merched ifanc i chwarae’n rheolaidd.

 

colcotimage3 (1)“Yn aml, gall gemau bach o bêl-droed gael eu gohirio drwy gydol misoedd y gaeaf ac mae’n bwysig bod y plant yn gallu parhau i chwarae neu byddant yn colli cyfleoedd i ddatblygu.  Rydym ni’n gobeithio y gall un neu ddau efallai fynd ymlaen i chwarae yn yr uwch-dîm pêl-droed a chwarae yn nhîm cyntaf Cymru.  Rydym ni eisiau iddynt fod y gorau y gallant fod. 


“Mae’r math hwn o gyfleuster yn rhoi cyfle i bob ifanc chwarae a dyna beth maent ei angen.”

 

Bydd rhagor o waith i wella cyfleusterau chwaraeon yn y Fro yn cynnwys ailwampio Canolfannau Hamdden y Barri a Phenarth yn y dyfodol agos. 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Rwy’n falch o weld y caeau pêl-droed newydd hynod fodern hyn ar agor yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot.  Byddant yn cynnig awyrgylch gwych i aelodau o’r gymuned gymryd rhan mewn chwaraeon drwy gydol y flwyddyn. 

 

“Fel Cyngor, rydym yn ymroddedig i annog ffordd egnïol o fyw a dyma’r enghraifft ddiweddaraf o’n buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau chwaraeon a hamdden.   Mae cymryd rhan mewn ymarfer corff rheolaidd yn hanfodol gan ei fod yn cyflwyno llawer o fanteision o ran iechyd ac yn hyrwyddo llesiant cyffredinol.”