Cost of Living Support Icon

Awduron o Gymru yn lansiad llyfrau celf ganolog

 

 

14 Gorffennaf 2017

 

Roedd dau awdur wrth eu bodd yn cyflwyno eu nofelau newydd mewn lansiad yn y Barri.

some kind front cover alt


Roedd yr Athro Tony Curtis a’r awdur o Gaerdydd, Crystal Jeans, yn darllen o’u llyfrau yn Celf Ganolog ddydd Iau 6 Gorffennaf.


Mae ambell un wedi disgrifio Crystal Jeans fel ‘Caitlin Moran Caerdydd', a daw ei llyfr newydd yn sgil ei nofel gyntaf lwyddiannus ‘The Vegetarian Tigers of Paradise’ oedd yn darlunio’i bywyd yn dod i oed yng Ngabalfa. 


 ‘Light Switches are Kryptonite’ yw enw ei hail nofel, sydd newydd ei cyhoeddi, ac mae’n dilyn stori dyn ifanc yn byw gydag OCD, ac sy’n gorfod symud i fyw at ei deulu ansefydlog.


Casgliad o straeon byrion ffuglennol wedi eu seilio ar y byd cyhoeddi a darlledu yw cyfrol newydd Tony Curtis, 'Some Kind of Immortality'. Mae'n awdur nodedig sydd wedi ennill llu o wobrau.


Mae ei gyfrol yn cynnwys straeon am anffyddlondeb yn y bar coffi, ei gariad ar Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, a theithiau ledled y byd, gan ymweld â lleoedd mor amrywiol â Dinbych-y-pysgod a Thoronto.


Mae Celf Ganolog yn Neuadd y Dref y Barri, a gellir ei chyrraedd drwy’r llyfrgell.


Noddwyd y noson gan Gyfeillion Celf Ganolog a'i chefnogi gan Wasanaeth Datblygu Celfyddydau Cyngor Bro Morgannwg.


I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau yn Celf Ganolog, ewch i http://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/enjoying/Arts-and-Culture/Arts-and-Culture.aspx  neu ffoniwch y gwasanaeth datblygu celf ar 01446 700111.