Cost of Living Support Icon

Dros £1m i’w wario ar ail osod wyneb ffyrdd yn y Fro yn 2017/18 dan gynlluniau newydd

30 Mehefin 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg i ddwyn £500,000 o wariant ymlaen er mwyn cwblhau gwaith cynnal a chadw ychwanegol ar y priffyrdd. 

 

Pothole being filledOs caiff cynlluniau gwariant newydd sydd i’w hystyried yr wythnos nesaf i gael eu cymeradwyo fe fyddai hyn yn dod â’r cyfanswm sydd i’w wario ar ail osod wyneb ffyrdd yn 2017/18 i £1m o leiaf.

 

Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Yn amlwg mae mwy o angen am waith ail-osod wyneb ffyrdd a phalmentydd ledled y Fro nag y caniatawyd ar ei gyfer yn y cynllun gwariant a gytunwyd o’r blaen.

 

"Dyna pam i mi sefydlu’r gronfa ail osod wyneb ffyrdd newydd hwn.  

 

“Dyma un o feysydd gwaith y Cyngor y gwyddwn sy’n un o brif flaenoriaethau’r preswylwyr, ac felly yn ogystal â dod a chyllid ymlaen rwy’n comisiynu adolygiad o drefniadau cyllido atgyweirio ffyrdd yn y dyfodol. Yn yr adroddiad i’r cabinet byddaf hefyd yn nodi fy mwriad i neilltuo £500,000 yn ychwanegol er mwyn parhau â chynllun Big Fill i mewn i 2018/19.”  

 

Dywedodd y Cyng. Geoff Cox, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae mawr angen y cyflymu hwn ar y gwaith ail-osod wyneb ffyrdd ac ystyriaeth i gynlluniau pellach a chyda’r ôl-groniad presennol o waith atgyweirio yn y Fro roedd hi’n hollbwysig fod y cyngor hwn yn gweithredu’n gyflym.  

 

“Caiff yr arian ychwanegol ei wario’n ddoeth ledled y Fro.  Bydd y tîm priffyrdd yn defnyddio meini prawf gwrthrychol i asesu’r ffyrdd sydd â mwyaf o angen eu hatgyweirio ac i sicrhau fod yr ardaloedd sydd â mwyaf o angen am y buddsoddiad hwn yw’r rhai fydd yn cael budd ohono. Byddaf yn cyflwyno rhaglen gynnal a chadw priffyrdd tair blynedd diwygiedig i’r cabinet yr haf hwn gan osod trefn blaenoriaeth i’r rhaglen ail osod wyneb ffyrdd gwell yma."

 

Dyma un o nifer o newidiadau sy’n cael eu cynnig i raglen wariant cyfalaf y Cyngor o 2017/18 a gaiff eu hystyried yng nghyfarfod cabinet yr awdurdod ar 3 gorffennaf 2017.

 

Mae arian ychwanegol hefyd wedi ei ryddhau ar gyfer mesurau blaenoriaeth bws Dinas Powys i Gaerdydd a llwybr beicio mae parcio Harbour Road ar Ynys y Barri.