Cost of Living Support Icon

Disgyblio Ysgol Gynradd Yns y Barri yn bwriadu rhoi hwb i dwristiaeth gyda llwybr cod QR


21 Mehefin 2017


Meddyliodd y plant am y syniad yn dilyn cais i ddatblygu project TGCh a fydda’i hybu eu gwaith a’u hardal leol.

 

 Barry Island Primary with John Thomas and Mayor. QR code

 

Mae'n cynnwys codau QR yn cael eu gosod o gwmpas yr ynys sy’n cysylltu â thudalen ar wefan yr ysgol gyda gwybodaeth am y nodwedd benodol honno.  Rhaid sganio’r codau â ffôn symudol i weld y wybodaeth hon. 


Mae wyth cod wedi’u lleoli yn Eglwys St Baruc, y Goleudy, Bae Jackson, Nell’s Point, y Cae Ffair, Bae Whitmore, Friars Point a’r Hen Harbwr/Bae Watch Tower.


Mae’r project yn manteisio ar y wifi sydd ar gael yn Ynys y Barri, y traeth cyntaf yn y DU lle y mae hyn ar gael.


QR logoMeddai’r Pennaeth Matther Gilbert:  “Y bwriad yw dathlu hanes lleol, lleoliadau allweddol a'u gweld trwy lygaid a dychymyg plant. Roedd y plant am helpu i ddenu twristiaid i’r ardal a defnyddio’r wifi gwych newydd a osodwyd gan Dave Vining, ein Cadeirydd Llywodraethwyr, a’r tîm TGCh yng Nghyngor Bro Morgannwg.


“Penderfynwyd cysylltu’r project â mentrau ysgolion iach sy’n annog plant i wneud mwy o ymarfer corff a gwella cyfleusterau dysgu yn yr awyr agored.  Rydym yn teimlo ei bod yn gyfle cyffrous i rannu ysgrifennu plant ac i greu cyffro ynghylch Ynys y Barri i bobl o bob oedran.  Bydd project o’r maint hwn yn cynnig dull cyffrous ac arloesol i’r genhedlaeth newydd o dwristiaid sy’n ymweld â’r Ynys.”


Meddai John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae plant Ysgol Gynradd Ynys y Barri wedi meddwl am syniad arloesol sy’n helpu i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleusterau modern sydd ar gael yn Ynys y Barri. 


“Mae’r ynys wedi bod yn destun gwaith adfywio helaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf a hwn yw’r traeth cyntaf yn y DU i gynnig wifi. Mae gwaith o’r fath wedi helpu i roi hwb i apêl yr ynys gyda thrigolion a thwristiaid, ac mae’r llwybr stori diddorol llawn gwybodaeth hwn yn nodwedd arall y gall ymwelwyr ei mwynhau.”


Mae mwy o wybodaeth am y llwybr stori QR yma www.barryislandprimary.com

 

 QR map