Cost of Living Support Icon

Beats, Eats and Treats yn dychwelyd i Ynys y Barri y penwythnos hwn

 

21 Mehefin 2017

 

Mae disgwyl i’r ŵyl llawn stondinau bwyd, cerddoriaeth a choginio syfrdanu Ynyswyr y Barri’r penwythnos hwn.

 

Denodd yr ŵyl dros 5,000 o ymwelwyr â’r Barri y llynedd, a bydd yn rhoi llwyfan i amrywiaeth o arddangosfeydd coginio gan gogyddion penigamp lleol, megis yr Hangfire Southern Kitchen a Bar 44, stondinau bwyd stryd, marchnad ffermwyr, a llwyth o adloniant i gadw’r teulu cyfan yn hapus.

 

 

Yn cael ei gynnal ar 24 a 25 Mehefin, bydd yr ŵyl hefyd yn rhoi llwyfan i stondinau o efeilldrefi Bro Morgannwg: Fécamp, Mouscron a Rheinfelden.  

 

Mae trefnwyr y digwyddiad wedi addo digwyddiad mwy a gwell na’r un y llynedd, gydag ystod eang o stondinau a gosodiad newydd yn y gerddi promenâd penigamp.

 

Ewch i www.valeofglamorgan.gov.uk/beats i gael mwy o wybodaeth.