Cost of Living Support Icon

Y Cyngor yn cytuno ar Amcanion Gwella ar gyfer 2017-18 


23 Mehefin 2017 


Cytunodd y Cabinet ar ran 1 o Gynllun Gwella Cyngor Bro Morgannwg:Amcanion Gwella 2017-18 ar 19 Mehefin.


Dywedodd Rob Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr:

 

“Yn gyson, mae’r Cyngor yn ceisio darparu ystod eang o wasanaethau angenrheidiol sydd o ansawdd da ar gyfer trigolion Bro Morgannwg, gan ymdrechu i wella ar yr un pryd. Mae gennym ddyletswydd statudol i osod set o Amcanion Gwella penodol bob blwyddyn ac i osod set o dargedau ar gyfer yr amcanion hyn i hybu gwelliannau mewn meysydd sy’n bwysig i ni ac i ddinasyddion. Mae wyth Amcan Gwella wedi’u gosod eleni, ar sail Cynllun Corfforaethol y Cyngor, ein Hunanasesiad Corfforaethol Blynyddol, ein proses cynllunio gwasanaeth flynyddol, adroddiadau gan ein rheoleiddwyr allanol ac ymgynghoriadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.”     

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor: 

"Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr, fy swyddogion a’m partneriaid allweddol i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf, sy’n ymateb yn effeithiol ar gyfer pob un o'n trigolion a'n cymunedau."

 

Mae modd gweld Amcanion Gwella 2017-18, gan gynnwys y rhesymeg dros bennu'r rhain, ar wefan y Cyngor.

 

Yn ogystal â hynny, mae modd gweld y cynllun yn nerbynfeydd pob un o swyddfeydd a llyfrgelloedd y Cyngor, ac mae modd cynnig Amcanion Gwella newydd neu wneud sylwadau ar y rhai presennol drwy anfon e-bost i improvements@valeofglamorgan.gov.uk.