Cost of Living Support Icon

Cyngor yn annog trigolion y Fro i gofrestru i bleidleisio ar ôl i nifer fawr bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol 

 

22 Mehefin 2017

 

Ar ôl i nifer fawr o bobl bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol y mis hwn mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog trigolion i gofrestru i bleidleisio os nad ydynt eisoes ar y gofrestr etholiadol. 

 

Civic Offices-007Gwnaeth bron i dri chwater (72.72%) o’r bobl hynny sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y Fro bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol. 

 

Meddai’r Swyddog Canlyniadau Dros Dro dros Fro Morgannwg, Debbie Marles: “Gwnaeth mwy o bobl bleidleisio yn yr etholiad hwn nag yn yr etholiad cyffredinol blaenorol a llawer o bleidleisiau eraill dros y blynyddoedd diwethaf.  

 

“Cafwyd bron i 54,000 o bleidleisiau ond yn anffodus, fel arfer, roedd angen troi nifer fach o bobl ymaith o’r gorsafoedd pleidleisio ar y diwrnod gan nad ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.“

 

Rydym yn gwneud llawer i hybu cofrestru cyn pob etholiad ond nid dyma’r unig amser y gall trigolion ychwanegu eu henwau at y gofrestr etholiadol. Gellir gwneud hyn trwy gydol y flwyddyn ac felly rydym bellach yn annog trigolion i wirio eu manylion fel y gallant ddweud eu dweud yn yr etholiad nesaf.  Gellir gwneud hyn trwy ffonio 01446 729552 neu drwy e-bostio electoralregistration@valeofglamorgan.gov.uk.”

 

Un o’r camddealltwriaethau mwyaf cyffredin yw bod y Cyngor yn gallu defnyddio gwybodaeth y dreth gyngor i ychwanegu enwau at y gofrestr etholiadol.  Nid yw hyn yn wir gan na chaniateir i’r awdurdod lleol yn gyfreithlon ddefnyddio'r wybodaeth at y diben hwn. 

 

Mae'r syniad bod cwblhau’r ffurflen 'canfasio' flynyddol y mae llawer o aneddiadau yn ei derbyn yn ychwanegu enwau at y gofrestr hefyd yn anghywir. Ers 2014, mae cwblhau'r ffurflen hon yn golygu y caiff ail lythyr ei anfon y mae’n rhaid i breswylwyr yr eiddo ei lofnodi a’i ddychwelyd i gael eu hychwanegu at y gofrestr. 

 

Nid oes rhaid i drigolion a bleidleisiodd y mis hwn boeni am ddim, ond gall y bobl hynny na dderbyniodd gerdyn pleidleisio neu nad oeddent yn gallu pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio gofrestru i bleidleisio ar unrhyw adeg yn www.gov.uk/cofrestruibleidleisio. Gallwch hefyd gofrestru dros y ffôn trwy ffonio 01446 729552.