Cost of Living Support Icon

Hyfforddiant Cynnwys yr Anabl gan dîm Chwaraeon a Chwarae’r Cyngor

 

06 Mehefin 2017

 

Mae grŵp sgowtiaid lleol ym Mro Morgannwg wedi ymgymryd â hyfforddiant cynhwysiant yn ddiweddar, gan gadw eu haddewid i ‘helpu pob un’.

 

11th Barry Sea Scout GroupCafodd ei gyflwyno gyntaf yn ysgolion cynradd y Fro – Ysgol Iau CDL y Santes Helen yn y Barri oedd y gyntaf i ddysgu am ddarparu ar gyfer anghenion y sawl sydd ag anabledd – ac mae grŵp ‘11th Barry Sea Scouts’ wedi ennill eu bathodynnau ymwybyddiaeth anabledd.

 

Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Cyngor Bro Morgannwg sy’n cynnal yr hyfforddiant, ac mae’n esbonio beth yw anabledd, gan gynnwys trafod ffyrdd o wella'ch lleoliad i gynnwys pawb yn well.

 

Caiff y Bathodynnau Gweithgarwch Ymwybyddiaeth Anabl eu dyfarnu i bob un o’r tair adran o’r grŵp, sy'n cynnwys yr Afancod, y Cybiau a’r Sgowtiaid, am gwblhau’r hyfforddiant.

 

Mae’r Sgowtiaid yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn ac maen nhw wedi cyflwyno’r bathodyn ymwybyddiaeth anabledd i godi ymwybyddiaeth o gynhwysiant a sut y gall pawb fod yn aelod o Gymuned y Sgowtiaid.

 

Meddai Simon Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru: “Mae’n wych gweld mor rhagweithiol y mae'r grŵp ‘11th Barry Sea Scouts’ wedi bod – mae wir wedi ymdrechu i ddod o hyd i hyfforddiant cynnwys yr anabl ar gyfer aelodau o’u grŵp Sgowtiaid.  Roedd yn wych bod mwy na 60 o aelodau wedi cwblhau'r hyfforddiant ac mae’n esiampl wych i Grwpiau Sgowtiaid eraill yn y fro o fod yn gynhwysol." 

 

Cafodd Hyfforddiant Byr Cynnwys yr Anabl ei ddyfeisio, yn y lle cyntaf, i helpu i wella gwybodaeth am gynhwysiant mewn ysgolion cynradd, ond mae modd i grwpiau plant a phobl ifanc ei fabwysiadu. 

 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y cwrs, cysylltwch â Thîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae’r Fro drwy anfon e-bost i sljones@valeofglamorgan.gov.uk