Cost of Living Support Icon

Un Pennaeth Gweithredol i'w Benodi ar Ddwy Ysgol Uwchradd Newydd y Barri

 

12 Mehefin 2017

 

Mae pennaeth gweithredol newydd i gael ei benodi i oruchwylio sefydlu dwy ysgol uwchradd gymysgryw newydd ar gyfer y Barri.

 

Gan weithio ar draws y ddwy ysgol bydd y pennaeth gweithredol yn gyfrifol am bob agwedd ar strategaeth rheoli’r ysgolion yn ogystal â chanlyniadau’r disgyblion.

 

Image001 (3)Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae hwn yn broject anferth ei arwyddocâd ac mae’n hanfodol fod y £44m sy’n cael ei fuddsoddi yn addysg y Barri yn dod â’r budd mwyaf i’r dref. 

 

“Bydd y rhain yn ddwy ysgol ar wahân gyda’u hunaniaeth benodol a bydd y pennaeth newydd yn gweithio gyda’r Cyngor a’r ddau gorff llywodraethu i wneud y mwyaf o botensial y ddwy ysgol. Yn bwysicaf oll bydd y Pennaeth gweithredol yn sicrhau fod y ddwy yn cydweithio i wneud y pontio mor esmwyth ag y bo modd i’r disgyblion a’r rhieni."


Caif y swydd newydd ei chreu ar gytundeb o bum mlynedd i oruchwylio’r pontio i’r ddwy ysgol newydd. O dan y trefniadau arfaethedig fe fydd hefyd ‘bennaeth ysgol’ yn y ddwy ysgol. Bydd yr athrawon hyn yn gyfrifol am reolaeth feunyddiol yn y ddwy ysgol. 

 

Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar broject £44m Cyngor Bro Morgannwg i drawsnewid addysg uwchradd yn y Barri. Sefydlwyd cyrff llywodraethu yn gynharach eleni a bydd yr ysgolion newydd yn dechrau gweithredu o fis Medi 2018.

 

Bydd adeilad newydd sbon yn disodli adeilad presennol Ysgol Uwchradd y Barri tra bydd yr adeilad sy’n gartref ar hyn o bryd i Ysgol Gyfun Bryn Hafren yn cael ei ailwampio’n llwyr fel rhan o raglen adeiladu fydd yn rhoi’r cyfleusterau diweddaraf i’r ddwy ysgol newydd. 


Rhagwelir y bydd swydd y pennaeth gweithredol yn cael ei llenwi’n ddiweddarach eleni ac y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ei le yn gynnar yn 2018.