Cost of Living Support Icon

Judy Murray yn canmol cyfleusterau tennis Cyngor Bro Morgannwg

30 Mehefin 2017


MAE Judy Murray wedi canmol y cyfleusterau tennis gaiff eu cynnig gan Gyngor Bro Morgannwg yn dilyn ymweliad diweddar â’r Barri.


Wrth i Wimbledon ddynesu, cynhaliodd mam Rhif 1 y Byd Andy Murray sesiynau i ferched lleol yng Nghanolfan Hamdden y Barri a Pharc Romilly.


Roedden nhw’n rhan o’r ymgyrch ‘She Rallies’ y mae Ms Murray yn ei harwain, cynllun sy’n anelu at gael mwy o ferched yn rhan o’r gamp.


02Cyfaddefodd yr hyfforddwr o’r Alban mae'r allwedd i gyfranogiad oedd bod cyfleusterau tennis ar gael i’r cyhoedd.


Ac fe ganmolodd y rhai hynny yn y Fro, gyda chyrtiau cyhoeddus am ddim ym Mharc Romilly, Parc Gladstone, Parc Alexandra a Millwood yn ogystal â lleoliadau eraill ym Mhenarth, y Rhŵs a Llandochau.


Mae modd llogi tennis byr ym mhob un o ganolfannau hamdden y Sir.


“Rydym yma yng Nghanolfan Hamdden y Barri ac wedyn rydym yn mynd i’r cyrtiau ym Mharc Romilly, sy’n rai cyhoeddus” meddai Ms Murray.


“Mae hynny’n wych oherwydd os bydd plant yn gweld tennis ar y teledu, fel y byddan nhw dros yr wythnosau nesa pan fydd Wimbledon yn cael ei gynnal, mae’n rhaid i ni gydio yn y brwdfrydedd yna.


“Cyfleusterau lleol sydd ar gael i’r cyhoedd ac sy’n fforddiadwy – am ddim gobeithio – yw’r ffordd orau ymlaen oherwydd byddwch chi’n colli diddordeb y plant yn sydyn os na allwch chi ddarparu’r gweithgaredd tra bod y cyffro yno.


“Rwy’n gredwr mawr os oes cyrtiau tennis mewn parciau cyhoeddus y dylen fod ar gael i’w defnyddio am ddim. Mae’r siglenni ar gael am ddim a’r hwyaid i’w bwydo am ddim felly dylai’r un fod yn wir am gyrtiau tennis.


“Mae’n wych bod yna barciau lleol yn y Barri sydd â chyrtiau oherwydd mae nifer o drefi lle nad yw hynny’n wir. Roedd ganddynt rai yn y gorffennol cyn eu colli i weithgareddau eraill, tai, archfarchnadoedd neu feysydd parcio.


“Mae cyrtiau tennis yn eithaf mawr felly mae’n aml yn anodd dod o hyd i’r gofod hynny eto os ydynt wedi diflannu. Cyfleusterau lleol cyhoeddus yw’r peth pwysicaf i allu meithrin y gamp.


Caiff y cynllun ‘She Rallies’ ei ddarparu mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Tennis Lawnt ac mae wedi ei gynllunio i gynyddu cyfranogiad merched yn y gamp, sy’n llawer rhy gwrywaidd o ran y niferoedd.


“Mae pedwar gwaith cymaint o fechgyn yn dod i’n camp ni ag sydd o ferched ac mae 80 y cant o’r gweithlu hyfforddi yn ddynion felly dim ond 20 y cant sy’n ferched,” ychwanegodd Ms Murray.


“Mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth i wneud ein camp yn fwy hygyrch, yn fwy o hwyl ac yn fwy ysgogol i ferched gan eu bod nhw’n dod o hyd i bethau eraill sy’n fwy merchetaidd.”